Nodiadau: 43 - Cyrchu Lleian

GDG 113

Cywydd llatai yw hwn, ond fe ymddengys mai llatai dynol sydd dan sylw, ac felly yn wahanol i'r cywyddau llatai eraill nid ymroir i ddyfalu'r negesydd. Yr unig ddisgrifiad ohono yw 'Da ddodrefn yw dy ddeudroed' (27). Anfonir y llatai i Lanllugan, lleiandy Sistersiaidd yn sir Drefaldwyn a sefydlwyd rywbryd cyn 1236. Awgrymodd Saunders Lewis (1953, 205–6) mai ym mynachlog Ystrad-marchell yr adroddwyd y cywydd hwn am y tro cyntaf, gan y byddai'r mynachod yn cofio'n dda am hanes anffodus carwriaeth Enoc, Abad Ystrad-marchell, â lleian o leiandy Llansanffraid-yn-Elfael yn y 1170au (gw. Lloyd, History of Wales, 599).

Hwn yw'r cynharaf o nifer o gywyddau serch i leianod. Trafodir pump ohonynt (pob un wedi'u priodoli i Ddafydd ap Gwilym yn y llawysgrifau) gan Helen Fulton, 'Medieval Welsh Poems to Nuns', CMCS 21 (summer 1991), 87–112. Dadleuodd mai'r abades yn benodol yw gwrthrych y cywydd hwn, a'i bod yn brofiadol mewn serch ('un a'i medr' – ond gw. nodyn ll. 33 isod). Ond dichon fod gwir ergyd y gerdd yn y cyfeiriad cynnil at Forfudd yn ll. 22. Efallai mai'r awgrym yw bod ceisio ennill serch Morfudd yr un mor ofer ag anfon llatai i leiandy – o bosibl am fod ei gŵr yn ei gwarchod mor llym ag y gwarchodir y lleianod gan 'y sieler mawr'.

Cynghanedd: croes 12 ll. (35%), traws 8 ll. (24%), sain 9 ll. (27% – ond gw. nodyn ll. 4), llusg 4 ll. (12%), pengoll 1 ll. (3%).

Fe ymddengys fod pob un o'r 12 copi'n tarddu yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r Vetustus. Ceir copïau uniongyrchol yn H 26, G 3, a Pen 49. Oherwydd hynny gellir cyfiawnhau diwygio mewn mannau. Nid yw'n glir pa sail sydd i drefn llinellau testun GDG ym mharagraff olaf y cywydd. Mae trefn y paragraff fel y'i ceir yn y llsgrau yn foddhaol (ond gw. nodyn ll. 23 isod), ac yn wir mae'n rhoi mwy o gymeriad rhwng y cwpledi.

1. dadlitia   Ar y calediad cyn i gytseiniol gw. WG 183. Ond gwrthgyferbynner dadlidia yn 97.52.

2.   Ar sail y ffaith bod lleiandy Llanllugan yn y Mers diwygiodd Parry ddarlleniad y llsgrau i i'r Mars yn GDG1, ond adferodd o'r Mars yn GDG2 . Ond gallai mars fod yn enw cyffredin yn golygu 'tiroedd ar oror gwlad', ac nid yw'n amlwg o ble yr anfonir y llatai fodd bynnag. Dehonglodd Parry i'r / ir y llsgrau fel er, am nad yw dwyn hynt i fis Mai yn gwneud synnwyr, mae'n debyg. Ond deellir mai fel enw cyffredin, 'gwastadedd' (cymh. meigoed 52.30).

4.   Afreolaidd yw'r odl rhwng mae ac eisiau, ac fe ddichon nad oes cynghanedd i fod yn y llinell.

9.   Nid yw darlleniad GDG, dewis lun, yn rhoi synnwyr boddhaol, a sylwer fodd bynnag mai lyn a geir yn Pen 49 a H 26, a lan yn G 3. Gan mai cynghanedd bengoll sydd yn y llinell nid oes angen ateb yr n yn Lan. Felly diwygiwyd i llyry, ffurf luosog llwrw, 'llwybr', gair a allai'n hawdd fod yn anghyfarwydd i gopïwyr yr 16eg ganrif. Dilynwyd Parry wrth newid yn i i oherwydd y treiglad meddal sy'n dilyn. O safbwynt y gystrawen nid oes angen arddodiad o gwbl yma, ond byddai'r llinell sillaf yn fer o'i hepgor.

12.sieler   benthyciad o'r Saesneg jailer, 'ceidwad carchar', gw. GPC 2046. Ond sylwer mai seler, selwr a solwr yw'r ffurfiau a geir yn G 3, Pen 49 a H 26, a seler yn y tair llawysgrif yn ll. 14 isod. Cymerodd Gwyn Thomas (2001, 220) mai at yr abades y cyfeirir. Ond os felly disgwylid ffurf fenywaidd yma ac ar gyfer selwr. Fel arfer yr unig aelod gwrywaidd o gymuned lleiandy fyddai'r offeiriad, ac mae'n debyg felly mai at hwnnw y cyfeirir.

23. o'i   Darlleniad y llsgrau yw o caf, ac ni ellir derbyn hwnnw fel y saif oherwydd disgwylid treiglad llaes ar ôl y cysylltair. Diwygiodd Parry i o'r, ond ceisiwyd cadw'n agosach at y llsgrau trwy ychwanegu'r rhagenw mewnol sy'n achub y blaen ar wrthrych y ferf. Ond nid yw'r synnwyr yn hollol foddhaol, gan fod yr is-gymal yn hongian heb brif gymal. Gellid diwygio'n fwy mentrus i Mi'i caf (cymh. GDG 137.85), gan adael m wreiddgoll.

27.   Mae'r un llinell i'w chael yn nhestun Pen 49 o rif 141 (gweler GDG 55.13).

33. un a'i medr   Cyfieithodd Fulton (1991, 107) 'one who is skilful'. Ond cymerir mai 'medr ... i' yw'r gystrawen yn yr ystyr 'cyrchu', gw. GPC 2393 a chymh. OPGO XLVI.19, 'Vn ni vedr i nef ydwyf'.