I'r llatai etc.
1 Dadlltia 'r diwyd latai
2 hwnt or mars dwg hynt i'r mai
3 Gedaist ciliaist myn Celi
4 amaf i mae d'eissieu di
5 dof holion difai helynt
6 da fyddost lie gwyddost gynt
7 peraist im fun ar vngair
8 par im weled merched Mair
9 Dewis lan dos yn lan-falch
10 Llugan lle mae rhai lliw-galch
11 Cais yn y llan ac annerch
12 y seler mawr selwr merch
13 Dyweid glain diwyd y glêr
14 hon yw'r salm hyn i'r seler
15 A chwyn maint yw'r achwyn mau
16 a chais i'm fynachesau.
17 [215v] Saint o bob lle a'm gweheirdd
18 Santessau hun-deiau heirdd.
19 Gwyn eiry arial gwawn oror
20 Gwenholiaid cwfeiniaid côr
21 Chwiorydd bedydd bob vn
22 I Forfydd araf eur-fun
23 O caf innau rhag ofal
24 or ffreutur dyn eglur dâl
25 Oni ddaw er cludaw clod
26 hoewne ery honno erod
27 dda ddodrefn yw dy ddeu-droed
28 Dwg o'r côr ddyn deg i'r coed
29 Car trugain cariad rhagor
30 Cais y glochyddes o'r côr
31 Cais frad ar yr Abades
32 Cyn lleuad haf cein-lliw tes
33 Vn a'i medr einym adail
34 A'r lliain du i'r llwyn dail.
Ddafydd ap Gwilym.