â â â Yr Ehedydd
1â â â  Oriau hydr yr ehedydd
2â â â  A dry fry o'i dy bob dydd,
3â â â  Borëwr byd, berw aur bill,
4â â â  Barth â'r wybr, borthor Ebrill.
5â â â  Llef radlon, llywiwr odlau,
6â â â  Llwybr chweg, llafur teg yw'r tau:
7â â â  Llunio cerdd uwch llwyni cyll,
8â â â  Lledneisgamp llwydion esgyll.
9â â â  Bryd y sydd gennyd, swydd gu,
10â â â  A brig iaith, ar bregethu,
11â â â  Braisg dôn o ffynnon y ffydd,
12â â â  Breiniau dwfn garbron Dofydd.
13â â â  Fry yr ai, iawnGai angerdd,
14â â â  Ac fry y ceny bob cerdd.
15â â â  Fy llwyteg edn, fy llatai,
16â â â  A'm brawd awdurdawd, od ai,
17â â â  Annerch gennyd wiwbryd wedd,
18â â â  Loyw ei dawn, leuad Wynedd,
19â â â  A chais un o'i chusanau
20â â â  Yma oe ddwyn ym, neu ddau.
21â â â  Mygr swyn gerllaw magwyr sêr,
22â â â  Maith o chwyldaith uchelder,
23â â â  Dogn achub, digon uched
24â â â  Y dringaist, neur gefaist ged.
25â â â  Dysgawdr mawl rhwng gwawl a gwyll,
26â â â  Disgyn, nawdd Duw ar d'esgyll.
27â â â  Moled pob mad creadur
28â â â  Ei greawdr, pefr lywiawdr pur.
29â â â  Moli Duw mal y dywaid,
30â â â  Mil a'i clyw, hoff yw, ni phaid.
31â â â  Modd awdur serch, mae'dd ydwyd?
32â â â  Mwyn groyw yw'r llais mewn grae llwyd.
33â â â  Cathlef lân diddan yw'r dau,
34â â â  Cethlydd, awenydd winau.
35â â â  Cantor o gapel Celi,
36â â â  Coel fydd teg, celfydd wyd di.
37â â â  Cyfar fraint, aml gywraint gân,
38â â â  Copa, a llwyd yw'r capan.
39â â â  Cyfeiria'r wybr cyfarwydd,
40â â â  Cywyddol, dir gweundir gwydd.
41â â â  Dyn uwchben a'th argenfydd,
42â â â  Dioer, pan fo hwyaf y dydd.
43â â â  Ban ddelych i addoli,
44â â â  Dawn a'th roes Duw Un a Thri,
45â â â  Nid brig pren uwchben y byd
46â â â  A'th gynnail, mae iaith gennyd,
47â â â  Ond rhadau y deau Dad
48â â â  A'i firagl aml a'i fwriad.
49â â â  Difri yr wybrfor dyrys,
50â â â  Dos draw hyd gerllaw ei llys.
51â â â  Bychan, genthi bwyf fi, fydd
52â â â  Bâr Eiddig un boreddydd.
53â â â  Mae arnad werth cyngherthladd
54â â â  Megys na lefys dy ladd.
55â â â  Be rhôn a'i geisio, berw hy,
56â â â  Bw Eiddig on'd byw fyddy.
57â â â  Mawr yw'r sercl yt a berclwyd,
58â â â  Â bwa llaw mor bell wyd.
59â â â  Trawstir sathr, trist yw'r saethydd,
60â â â  Trwstan o'i fawr amcan fydd.
61â â â  Trwch ei lid, tro uwch ei law
62â â â  Tra êl â'i hobel heibiaw.