Aralleiriad: Paraphrase: 44 - Yr Ehedydd

Yr Ehedydd

Mae gweddïau nerthol yr ehedydd
yn troi yn yr entrych o'i dŷ bob dydd,
boregodwr y byd, cynnwrf cân loyw,
4 tua'r awyr, ceidwad porth Ebrill.
Llais graslon, cyfarwyddwr odlau,
llwybr pêr, hyfryd yw dy waith di:
llunio cerdd uwch llwyni coed cyll,
8 campwaith chwaethus yr un â'r adenydd brown.
Mae gennyt fryd ar bregethu,
gwaith annwyl, a rhagoriaeth iaith,
cân rymus o ffynnon y ffydd,
12 hawliau pwysfawr gerbron Duw.
Yn uchel yr ei di, priodoledd Cai cywir,
ac yn uchel y ceni bob cerdd.

Fy aderyn brown hardd, fy negesydd serch,
16 a'm cydawdur, os ei di,
cyfarcha'r ferch hardd ei gwedd,
disglair ei chynhysgaeth, lleuad Gwynedd,
a gofynna am un o'i chusanau
20 i'w ddwyn i mi yma, neu ddau.
Swyn ysblennydd ger pared y sêr,
taith gylchog hir i'r uchelder,
cipio cyfran, digon uchel
24 y dringaist, fe gefaist rodd.
Athro mawl rhwng y wawr a'r gyfnos,
disgynna, bendith Duw ar d'adenydd.

Bydded i bob creadur da foli
28 ei greawdwr, rheolwr disglair a phur.
Moli Duw fel y dywed Ef,
fe'i clyw mil o bobl, mae'n enwog, nid yw'n stopio.
Dull awdur serch, ble rwyt ti?
32 Mwyn a chlir yw'r llais mewn gwisg lwyd a brown.
Mae gennyt lais canu pur a hyfryd,
canwr, awen frowngoch.
Cantor o gapel Duw,
36 bydd yn arwydd da, rwyt ti'n gelfydd.
Hawl ar randir, cân fedrus a mynych,
crest, a brown yw'r clogyn.
Cyrcha'r awyr gynefin,
40 prydydd, i dir anial y waun.
Bydd dyn yn dy weld uwchben,
yn sicr, pan fo'r dydd ar ei hwyaf.
Pan ddei di i addoli,
44 talent a roddodd Duw Un a Thri i ti,
nid brig coeden sy'n dy gynnal
uwchben y byd, mae gennyt iaith,
eithr gras y Tad cywir
48 a'i wyrth fynych a'i ragluniaeth.

Un ymroddedig môr anial yr awyr,
dos draw i ymyl ei llys.
Dim ond i mi fod gyda hi, bychan fydd
52 dicter y Gŵr Eiddig am un bore.
Mae'r dirwy am dy ladd trist yn gymaint
fel na fydd neb yn meiddio dy ladd.
Pe digwyddai rhywun geisio, cyffro hy,
56 bw i Eiddig os na fyddi di fyw.
Mae'r ffurfafen yn esgynbren mawr i ti,
rwyt mor bell oddi wrth fwa llaw.
Tir garw sathredig, trist yw'r saethydd,
60 bydd yn lletchwith wrth anelu'n bell.
Anfad yw ei ddicter, tro di uwch ei law
tra bo'i walch yn mynd heibio.