Cyw: y 12 Apostol
1 Da y lluniodd dvll iownwedd
2 dwyfron mab Duw fry an medd
3 rhoed yn llew mewn tabl newydd
4 ail vn wawr ar lawion wydd
5 er dangos iw evrgloes ef
6 yr devddeg oll ar dioddef
7 grasvs yw ar groes y sydd
8 y dioddefodd Dvw Ddafydd
11 da y llvniodd Iesu llwyd llon
12 o ddysc abl ai ddyscyblion
13 tyfiad a gwardd twf digabl
14 tri ar ddeg pan nad teg y tabl
15 a dvw ei hvn sydd y'n y canawl
16 delw fwyn da y dyle fawl
17 ar devddeg lawendeg lv
18 a roswyd ynghylch yr Iesu
19 chwech o rann ar bob hanner
20 dawn oll yn amgylch dvw nêr
21 ar yr hanner maner mwyn
22 diav iddi ddvw addwyn
23 [613] y mae Peder da y gwyr edrych
24 ag Ifan wiw amcan wych
25 a Phylipus orevwys râs
26 gwyndroed a gwiw Andras
27 Iago hael hoyw gv hylwydd
28 a Sain Simon roddion rwydd
29 lliw 'r avr ar y llaw arall
30 ir arglwydd cain hylwydd call
31 y mae Pawl weddawl wiwddoeth
32 a Thomas goweithas goeth
33 Bartho= nid rhaid ymwrthod
34 =Lomefvs glaer weddvs glod
35 mwythvs liw Mathias lân
36 ag Iago rhai diogan
37 Sain Sud o fewn a sens hoywdeg
38 llyn yn twy llynynnav têg
39 llawn o rad ynt pellynt pwyll
40 llei doded mewn lliw didwyll
41 ystyr doeth ystori deg
42 yw 'r dydd a roed ir devddeg
43 i gerdded byd gydag ef
44 can deddfawl cyn dioddef
45 gwedi 'r loes ar groes y grog
46 a gafais Crist ar gyfog
47 ai farw ni bv oferedd
48 hefyd ag or byd ir bedd
49 pan gyfodes dvw Iesu
50 yn wir gâr or ddaiar ddv
51 dvg yn ei blaid llygaid llys
52 y devddeg anrhydeddvs
53 mab Mair a gair o gariad
54 i oresgyn tyddyn ein tâd
+1 [614] gair llês yw dywedyd Iesu
+2 a gorev gair gan Fair a fv
+3 gair cariad yw or gadair
+4 ar mab rhad a gâd or gair
+5 dvw yw 'r gair diwair gariad
+6 ar gair yw dvw ar gwir dâd
+7 dvw fo 'n porth an cynhorthwy
+8 Amen ni ddymvnwn mwy
D llwydd llywelyn ap Gruff