|
Ll 124, 612–14 |
|
| |
Cyw: y 12 Apostol |
| |
| 1 |
Da y lluniodd dvll iownwedd |
| 2 |
dwyfron mab Duw fry an medd |
| 3 |
rhoed yn llew mewn tabl newydd |
| 4 |
ail vn wawr ar lawion wydd |
| 5 |
er dangos iw evrgloes ef |
| 6 |
yr devddeg oll ar dioddef |
| 7 |
grasvs yw ar groes y sydd |
| 8 |
y dioddefodd Dvw Ddafydd |
| 11 |
da y llvniodd Iesu llwyd llon |
| 12 |
o ddysc abl ai ddyscyblion |
| 13 |
tyfiad a gwardd twf digabl |
| 14 |
tri ar ddeg pan nad teg y tabl |
| 15 |
a dvw ei hvn sydd y'n y canawl
|
| 16 |
delw fwyn da y dyle fawl |
| 17 |
ar devddeg lawendeg lv |
| 18 |
a roswyd ynghylch yr Iesu |
| 19 |
chwech o rann ar bob hanner |
| 20 |
dawn oll yn amgylch dvw nêr |
| 21 |
ar yr hanner maner mwyn |
| 22 |
diav iddi ddvw addwyn |
| 23 |
[613] y mae Peder da y gwyr edrych |
| 24 |
ag Ifan wiw amcan wych |
| 25 |
a Phylipus orevwys râs |
| 26 |
gwyndroed a gwiw Andras |
| 27 |
Iago hael hoyw gv hylwydd |
| 28 |
a Sain Simon roddion rwydd |
| 29 |
lliw 'r avr ar y llaw arall |
| 30 |
ir arglwydd cain hylwydd call |
| 31 |
y mae Pawl weddawl wiwddoeth |
| 32 |
a Thomas goweithas goeth |
| 33 |
Bartho= nid rhaid ymwrthod |
| 34 |
=Lomefvs glaer weddvs glod |
| 35 |
mwythvs liw Mathias lân |
| 36 |
ag Iago rhai diogan |
| 37 |
Sain Sud o fewn a sens hoywdeg |
| 38 |
llyn yn twy llynynnav têg |
| 39 |
llawn o rad ynt pellynt pwyll |
| 40 |
llei doded mewn lliw didwyll |
| 41 |
ystyr doeth ystori deg |
| 42 |
yw 'r dydd a roed ir devddeg |
| 43 |
i gerdded byd gydag ef |
| 44 |
can deddfawl cyn dioddef |
| 45 |
gwedi 'r loes ar groes y grog |
| 46 |
a gafais Crist ar gyfog |
| 47 |
ai farw ni bv oferedd |
| 48 |
hefyd ag or byd ir bedd |
| 49 |
pan gyfodes dvw Iesu |
| 50 |
yn wir gâr or ddaiar ddv |
| 51 |
dvg yn ei blaid llygaid llys |
| 52 |
y devddeg anrhydeddvs |
| 53 |
mab Mair a gair o gariad |
| 54 |
i oresgyn tyddyn ein tâd |
| +1 |
[614] gair llês yw dywedyd Iesu |
| +2 |
a gorev gair gan Fair a fv |
| +3 |
gair cariad yw or gadair |
| +4 |
ar mab rhad a gâd or gair |
| +5 |
dvw yw 'r gair diwair gariad |
| +6 |
ar gair yw dvw ar gwir dâd |
| +7 |
dvw fo 'n porth an cynhorthwy |
| +8 |
Amen ni ddymvnwn mwy |
| |
| |
D llwydd llywelyn ap Gruff |
| |