cowydd ir hedydd o waith dd ap glm
1 Orie hyder yr hedydd
2 a dry fry oi dy bob dydd
3 borevwr byd berw avr bill
4 barth ir wybr borthor ebrill
5 lle rradlon llowiwr odlav
6 llwybr chweg llafvr teg ywr tav
7 llvnio cerdd yw llwyni cyll
8 lledneissgamp llwydion esgyll
9 bryd y sydd gennyd swydd gv
10 a brig iaith ar bregethv
11 braisc don o ffynnon y ffydd
12 breiniav dwfn gar bronn dofydd
13 fry i rai iowngai angerdd
14 ag fry y ceny bob cerdd
15 fy llwyteg edn fy llattai
16 am brawd owdvrdawd o dai
17 anerch gennyd wiwbryd wedd
18 loyw i dawn levad wynedd
19 [a chais un oi chussanau
20 yma yw ddwyn ym ne ddau]
21 mygyr swyn gaer magwyr ser
22 maith o chwyldaith vchelder
23 [202r] dogvn achvb digon vched
24 i dringaist ner gefaist ged
25 dyscawdr mawl rrwng gwawl a gwyll
26 discyn nawdd duw ar descill
27 moled pob mad creadvr
28 i greawdr pefr lowiawdr pvr
29 moli duw mal i dowaid
30 mil ai clyw hoff yw na ffaid
31 modd awdvr serch mae ddydwyd
32 mwyn grevw groew llais meawn grae llwyd
33 cathle lan diddan ywr dav
34 cethlydd y wenydd wnniav
35 canttor o gapel celi
36 coel fydd teg celfydd wyti
37 cyfar fraint aml gowraint gan
38 copa a llwyd ywr capan
39 cyfeiria r wybr cyfarwydd
40 cywyddawl dir gweindir gwydd
41 dyn yw benn ath argennfydd
42 di oer pan fo vcha r dydd
43 pan ddelych i addoli
44 dawn ath roes duw vn a thri
45 [202v] nid brig prenn ywch benn y byd
46 ath gynnal mae iaith gynyd
47 ond rradav y deav dad
48 ai fvragl aml ai fwriad
49 difriw or wybr for dyrys
50 dos draw hyd gar llaw i llys
51 bychan genthi bwy fi fydd
52 bar eiddig vn borevddydd
53 mae arnad werth cynherthladd
54 megys na lefys dy ladd
55 pe rron ai geissio berw hy
56 bwf eiddig ond byw fyddy
57 [mawr yw /r/ sserkl yt aberklwyd
58 a bwa llaw mor bell wyd]
59 trostir sathr trist ywr seythydd
60 twrstan ai fawr amcan fydd
61 trwch i lid tro ywch i law
62 tra el ai hobel heibiaw
dd' ap gwilym