kowydd ir hedydd
1 Oriev hydyr yr ehedydd
2 a dry fry oi dy bob dydd
3 borevwyr byd berwair bill
4 barth ar wybr borthor ebrill
5 lle rhadlon llywiwr odlav
6 llwybr chweg llafvr teg ywr tav
7 llvnio cerdd ywch llwyni cyll
8 lledneisgamp llwydion esgyll
9 bryd y sydd genyd swydd gv
10 a brig iaith ar bregethv
11 braisg don o ffynon y ffydd
12 breiniav dwfn gar bron dofydd
13 fry yr ai iowngor angerdd
14 ag fry i ceny bob cerdd
15 [279] fy llwyteg edn fy llattai
16 am brawd awdyrdawd od ai
17 annerch gennyd wiwbryd wedd
18 loyw i dawn levad wynedd
19 achais vn oi chyssanav
20 yma yw ddwyn ym nev ddav
21 mygyr swyn ger llaw magwyr ser
22 maith o chwildaith vchelder
23 dogn achyb digon vched
24 i dringaist di a gefaist ged
25 dysgawdr mawl rhwng gwawl a gwyll
26 disgyn nawdd duw ar desgyll
27 moled pob mad greadvr
28 i greawdr pefr lywiawdr pvr
29 moli duw mal i dywaid
30 mil ai clyw hoff yw ni ffaid
31 modd awdvr serch mae ddydwyd
32 mwyn groyw ywr llais mewn grae
llwyd
33 cathlef lan diddan ywr dav
34 cethlydd awenydd wyniav
35 cantor o gappel celi
36 coel fydd teg celfydd wyd ti
37 cyfar fraint aml gywraint gan
38 coppa a llwyd ywr cappan
39 cyfeiria /r/ wybr cyfarwydd
40 cywyddawl dir gweindir gwydd
41 dyn ywch ben ath argenfydd
42 dioer pan fo vcha/r/ dydd
43 bean
ddelych ben i ddoli
44 dawn ath roes vn duw athri
45 nid brig prenn ywch ben y byd
46 ath gynal mae iaith gennyd
47 [280] ond rhadav y diav dad
48 xai
firagl aml ai fwriad
49 dyred ir wybrfor dyrys
50 dos draw gerllaw i llys
51 bychan gennyd ba fyd fydd
52 bar eiddig vn borevddydd
53 mae arnad werth cynherthladd
54 megys na lefys dy ladd
55 berhon ai geisio berw hy
56 bwyf eiddig ond byw fyddi
57 mawr ywr sercl yt aberclwyd
58 a bwa a llaw mor bell wyd
59 trowstir sathr trist ywr seythydd
60 trwstan oi fawr amcan fydd
61 trwch i lid tro ywch i law
62 tra el ai hobel heibiaw
dd' ap gwylym ai cant