{ko yr Hedydd}
1 Oriae hydr yr ehedydd
2 a dry vry oi duy bob dydd
3 boreuwr byd berw aur bill
4 barth ar wybr borthor ebrill
5 llef radlon llywiwr odlau
6 llwybr chweg llavur deg yw'r dau
7 llvnio cerdd vwch ben llwyn cyll
8 lledneisgamp llwydion esgyll
9 bryd y sydd genyd swydd gu
10 a brig iaith i bregethu
11 [489] braisg ton vwch ffynon y [ ]
12 breiniau dwfn garw bron dofyd[ ]
13 vry yr ai iowngai angerdd
14 ag vry y ceny bob cerdd
15 vy llwyteg edn vy llatai
16 am brawd awdurdawd od ai
17 annerch genyd wiwbryd wedd
18 loew i dawn leuad wynedd
19 a chais vn oi chusanau
20 yma oi ddwyn ym neu ddau
21 mygr swyn gaer magwyr ser
22 maith ochwyldaith vchelder
23 dogn achub digon vched
24 y dringaist neur geisiaisd ged
25 dysgawdr mawl rhwng gwawl a gwyll
26 disgin nawdd duw ar desgyll
27 moled pob mad greadur
28 i greawdr pevr lywiawdr pur
29 moli duw mal y dywaid
30 mil ai clyw hoff yw na phaid
31 modd awdur serch mae ddydwyd
32 mwyn groew y llais mewn grae llwyd
33 cathle lan diddan yw'r dau
34 cethlydd awenydd winau
35 cantor o gapel celi
36 coel vydd teg celvydd wyti
37 cyfar vraint aml gowraint gan
38 copa a llwyd yw'r capan
39 cyveiria'r wybr cyvarwydd
40 cywyddawl dir gwndir gwydd
41 dyn vwch ben ath argenvydd
42 dioer pan vo hwya'r dydd
43 ban ddelych i addoli
44 dawn ath roes duw vn a th[ ]
45 nid brig pren vwch ben y byd
46 ath gynnail iaith dda gen[ ]
47 [490] ond rhadau y deau dad
48 ai viracl aml ai vwriad
49 difri yr wybrvor dyrys
50 dos draw hyd gerllaw y llys
51 byth genthi bwy vi vydd
52 bar eiddig vn boreuddydd
53 mae arnad werth cyngherladd
54 megys na lefys dy ladd
55 be rhon ai geisio berw hy
56 bwyf eiddig ond byw vyddy
57 mawr yw serccl dy berclwyd
58 a bwa llaw mor bell wyd
59 trowstir sathr trist yw'r seuthydd
60 twrstan yn v'amcan a vydd
61 trwch i lid tro vwch i law
62 onid el i hobel heibiaw
D: ap Glm'