kowydd ir devddeg abostol
1 da i llvniodd duw dvll iownwedd
2 dwyfron mab duw fry an medd
3 rhoed yn llew mewn tabl newydd
4 ai lvn wawr ar loywon wydd
5 er dangos yw evrglos ef
6 y devddeg oll ar dioddef
7 grasvs yw ar y groes sydd
8 y dioddefodd duw ddofydd
11 da i llvniwyd iessv lwyd lon
12 o ddysg abl ai ddisgyblion
13 tyfiad a gwrdd twf digabl
14 tri ar ddeg pan teg y tabl
+1 llawn o rad ynt pellynt pwyll
+2 lle i doded mewn lliw didwyll
15 duw i hvn sy yn y kanawl
16 delw fwyn da i dylai fawl
17 ar devddeg lawendeg lv
18 roeswyd ynghylch yr iessv
19 chwech o ran ar bob haner
20 dawn oll o amgylch dvw ner
21 ar yr haner myner mwyn
22 deav iddo dvw addwyn
23 mae pedr da i gwyr edrych
24 ag ifan wiw amkan wych
25 a ffylib orevwib ras
26 gwyndroed yw a gwiw andras
27 iago hael hoyw gv hylwydd
28 a sain seimon Roddion Rwydd
29 lliwr avr ar y llaw arall
30 ir arglwydd kain hylwydd kall
31 y mae pawl weddawl wiw ddoeth
32 a thomas goweithas goeth
33 bartho nid Raid vm wrthod
34 lamevs glaer weddvs glod
35 moethvs liw mathevs lan
36 ag iago Rai diogan
37 [17] sain svd ofewn sens hoyw deg
38 llyna yn twy llwynav teg
39 llawn o rad ynt pellynt pwyll
40 lle i doded mewn lliw didwyll
41 ystyr doeth ystori deg
42 yw r dydd a roed ir devddeg
43 i gerdded byd gida ag ef
44 kain deddfawl kyn dioddef
45 gwedi r loes ar groes y grog
46 a gafas krist ar gyfog
47 ai farw ni bv oferedd
48 hefyd ag or byd ir bedd
49 pan gyfodes duw iessv
50 yn gwir gar or ddavar ddv
51 dvg yn i blaid llygaid llvs
52 y devddeg an rhydeddvs
53 mab Mair a gair o gariad
54 i orysgyn tyddyn y tad
+3 gair kariad yw or gadair
+4 ar mab rhad a gad or gair
+5 dvw fo n porth an kymhorthwy
+6 amen ag ni ddvna mwy
dafydd ap gwilym