â â â Yr Wylan
1â â â Yr wylan deg ar lanw, dioer,
2â â â Unlliw ag eiry neu wenlloer,
3â â â Dilwch yw dy degwch di,
4â â â Darn fal haul, dyrnfol heli.
5â â â Ysgafn ar don eigion wyd,
6â â â Esgudfalch edn bysgodfwyd.
7â â â Yngo'r aud wrth yr angor
8â â â Lawlaw â mi, lili môr.
9â â â Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
10â â â Lleian ym mrig llanw môr wyd.
11â â â Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
12â â â Cyrch ystum caer a chastell.
13â â â Edrych a welych, wylan,
14â â â Eigr o liw ar y gaer lân.
15â â â Dywaid fy ngeiriau dyun,
16â â â Dewised fi, dos hyd fun.
17â â â Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
18â â â Bydd fedrus wrth fwythus ferch
19â â â Er budd; dywaid na byddaf,
20â â â Fwynwas coeth, fyw onis caf.
21â â â Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
22â â â Och wyr, erioed ni charawdd
23â â â Na Merddin wenithfin iach,
24â â â Na Thaliesin ei thlysach.
25â â â Siprys dyn giprys dan gopr,
26â â â Rhagorbryd rhy gyweirbropr.
27â â â Och wylan, o chai weled
28â â â Grudd y ddyn lanaf o Gred,
29â â â Oni chaf fwynaf annerch,
30â â â Fy nihenydd fydd y ferch.