Yr Wylan | |
Yr wylan deg ar lanw, dioer, | |
Unlliw ag eiry neu wenlloer, | |
Dilwch yw dy degwch di, | |
4 | Darn fal haul, dyrnfol heli. |
Ysgafn ar don eigion wyd, | |
Esgudfalch edn bysgodfwyd. | |
Yngo'r aud wrth yr angor | |
8 | Lawlaw â mi, lili môr. |
Llythr unwaith lle'th ariannwyd, | |
Lleian ym mrig llanw môr wyd. | |
Cyweirglod bun, cai'r glod bell, | |
12 | Cyrch ystum caer a chastell. |
Edrych a welych, wylan, | |
Eigr o liw ar y gaer lân. | |
Dywaid fy ngeiriau dyun, | |
16 | Dewised fi, dos hyd fun. |
Byddai'i hun, beiddia'i hannerch, | |
Bydd fedrus wrth fwythus ferch | |
Er budd; dywaid na byddaf, | |
20 | Fwynwas coeth, fyw onis caf. |
Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd, | |
Och wŷr, erioed ni charawdd | |
Na Merddin wenithfin iach, | |
24 | Na Thaliesin ei thlysach. |
Siprys dyn giprys dan gopr, | |
Rhagorbryd rhy gyweirbropr. | |
Och wylan, o chai weled | |
28 | Grudd y ddyn lanaf o Gred, |
Oni chaf fwynaf annerch, | |
Fy nihenydd fydd y ferch. | |