Yr Wylan
Yr wylan deg ar y llanw, yn sicr,
o'r un lliw ag eira neu'r lleuad wen,
mae dy degwch di yn ddilychwin,
4 darn fel haul, maneg ddur y môr.
Ysgafn wyt ti ar donnau'r môr,
aderyn chwim a balch sy'n bwyta pysgod.
Yn agos yr aet ger yr angor
8 law-yn-llaw â mi, lili'r môr.
Fe'th beintiwyd yn arian yn union fel llythyr(en),
lleian wyt ar frig llanw'r môr.
Clod perffaith merch, cei dy foli'n helaeth,
12 cyrcha at dro caer a chastell.
Edrycha a weli di, wylan,
un o'r un lliw ag Eigr ar y gaer deg.
Dywed fy ngeiriau eiddgar,
16 dewised hi fi, cer at y ferch.
Os bydd ar ei phen ei hun, mentra'i chyfarch,
bydd yn gwrtais wrth y ferch lednais
er lles; dywed na fyddaf fi,
20 llanc bonheddig a diwylliedig, fyw oni chaf hi yn gariad.
Rwyf yn ei charu, nerth angerdd llawn,
och wyr, ni charodd
Myrddin gyda'i wefusau gwenithaidd iach,
24 na Thaliesin erioed un dlysach na hi.
Merch y mae ymgiprys amdani sy'n gwisgo lliain main dan [wallt o
liw] copor,
golwg rhagorol, hynod o drwsiadus.
Och wylan, os cei di weld
28 boch y ferch harddaf yn y byd,
os na chaf fi gyfarchiad addfwyn iawn,
bydd y ferch yn achosi fy marwolaeth.