| Yr Wylan | |
| Yr wylan deg ar y llanw, yn sicr, | |
| o'r un lliw ag eira neu'r lleuad wen, | |
| mae dy degwch di yn ddilychwin, | |
| 4 | darn fel haul, maneg ddur y môr. |
| Ysgafn wyt ti ar donnau'r môr, | |
| aderyn chwim a balch sy'n bwyta pysgod. | |
| Yn agos yr aet ger yr angor | |
| 8 | law-yn-llaw â mi, lili'r môr. |
| Fe'th beintiwyd yn arian yn union fel llythyr(en), | |
| lleian wyt ar frig llanw'r môr. | |
| Clod perffaith merch, cei dy foli'n helaeth, | |
| 12 | cyrcha at dro caer a chastell. |
| Edrycha a weli di, wylan, | |
| un o'r un lliw ag Eigr ar y gaer deg. | |
| Dywed fy ngeiriau eiddgar, | |
| 16 | dewised hi fi, cer at y ferch. |
| Os bydd ar ei phen ei hun, mentra'i chyfarch, | |
| bydd yn gwrtais wrth y ferch lednais | |
| er lles; dywed na fyddaf fi, | |
| 20 | llanc bonheddig a diwylliedig, fyw oni chaf hi yn gariad. |
| Rwyf yn ei charu, nerth angerdd llawn, | |
| och wŷr, ni charodd | |
| Myrddin gyda'i wefusau gwenithaidd iach, | |
| 24 | na Thaliesin erioed un dlysach na hi. |
| Merch y mae ymgiprys amdani sy'n gwisgo lliain main dan [wallt o liw] copor, | |
| golwg rhagorol, hynod o drwsiadus. | |
| Och wylan, os cei di weld | |
| 28 | boch y ferch harddaf yn y byd, |
| os na chaf fi gyfarchiad addfwyn iawn, | |
| bydd y ferch yn achosi fy marwolaeth. | |