Nodiadau: 45 - Yr Wylan

GDG 118; HGDG t. 77–8; DGSP 22.

Yn y cywydd hwn anfonir gwylan yn llatai at ferch ddienw a drigai mewn tref gastellog ar lan y môr. Nid oes digon o dystiolaeth yn y gerdd i benderfynu pa un o gestyll niferus glan môr Cymru oedd hwn; awgrymodd D. J. Bowen (1977, 193) gastell Aberystwyth, ac Anthony Conran ('The Redhead on the Castle Wall: Dafydd ap Gwilym's "Yr Wylan" ', THSC 1992, 19–44) gastell Cricieth (yn bennaf ar sail y darlun o'r llys gwâr yno yng nghywydd Iolo Goch, GIG II). Awgrymwyd hefyd mai Morfudd yw'r ferch dan sylw, ond sylwer mai gwallt lliw copr sydd gan hon (ll. 25), tra bod gwallt lliw aur gan Forfudd (gw. 'Gwallt Morfudd', cerdd 114).

Cynghanedd: croes 13 ll. (43%), traws 8 ll. (27%), sain 9 ll. (30%).

Cadwyd y cywydd hwn mewn 28 o lsgrau, a'r cynharaf ohonynt yw BM 24 o chwarter cyntaf yr 16fed ganrif. Ceid testun ohono yn y Vetustus, fel y gwelir yn y tri chopi uniongyrchol yn H 26, Ll 120 a Pen 49. Mae'r testunau a geir yn BM 24, BM 38 a M 146 yn debyg iawn i un y Vetustus, ac nid oes dim amrywiaeth o gwbl o ran nifer na threfn llinellau, ond mae mân wahaniaethau arwyddocaol o ran darlleniadau sy'n awgrymu eu bod yn tarddu o gam cynharach yn nhrosglwyddiad y gerdd.

1. dioer   talfyriad unsill o'r llw 'Duw a ŵyr!'.

2.   Mae ôl dibynnu ar y cof yn nhestunau BM 38 a M 146 lle collwyd y gair eiry; rhoddwyd ansoddair yn ei le yn BM 38, araf wenlloer, a delwedd gyffelyb, ewyn ner lloer, yn M 146.

7. aud   Fe ymddengys mai awn oedd darlleniad y Vetustus, ond efallai nad dyna oedd yn ei gynsail, gan mai yngo nid oes a geir yn BM 24. LlGC 560 yn unig sy'n rhoi aud, ac fe ddichon mai cywiriad gan y copïwr oedd hwn, ond mae'r synnwyr yn gofyn y ffurf ail berson beth bynnag.

9. lle'th ariannwyd   Mae hyn yn seiliedig ar ddarlleniad BM 24, lle ithrianwyd; ceir llathr ei annwyd ymhob copi arall, a dyna a ddilynwyd yn GDG. Gellir esbonio'r llygriad fel ffrwyth camrannu geiriau. Mantais y darlleniad hwn yw ei fod yn datblygu'r ddelwedd yn hanner cyntaf y llinell. Gallai llythr olygu llythyr neu lythyren (gw. GPC 2284). Fe'i deallwyd fel llythyr fel arfer ar sail testun GDG, ac wrth gwrs mae hynny'n berthnasol i'r syniad o ddwyn neges, ond mae llythyren hefyd yn ystyrlon yma gan fod modd gweld yr wylan fel llythyren fawr yn yr awyr, ac unwaith yn cyfeirio at y gwaith addurn arni (cymh. geiriau fel eurwaith). Anaml y byddid yn lliwio llythrennau ag arian mewn llawysgrifau yn yr Oesoedd Canol gan fod arian yn ocsideiddio a throi'n ddu, ond efallai mai'r pwynt yw bod y lliw arian hwn yn ddi-nam.

10.   Gwisg wen fyddai gan leianod yr Oesoedd Canol gan amlaf.

11. cyweirglod bun   Deallwyd hyn fel ansoddair yn rhagflaenu enw, e.e. 'Geneth o glod perffaith' (HGDG), a '[There is] a girl ripe for far-flung praise' (SPDG). Ond disgwylid treiglad i'r enw yn y gystrawen honno. Fel y dangoswyd yn Johnston, 1985, 82, enw yw cyweirglod yn cyfeirio at yr wylan. Yr wylan oedd clod perffaith merch am ei bod yn cael ei defnyddio mor aml fel delwedd am liw croen merched yn y farddoniaeth (cymh. 'hoen gwylan' 124.18).

cai   Darllenodd Parry câi, ond mae'r ail berson yn fwy addas gan fod yr wylan yn cael ei chyfarch trwy gydol y gerdd. Ceir yr un ffurf yn 27 isod.

12.   Ceir yr un trawiad gan Iolo Goch, GIG XX.118, 'Tau gastell teg ei ystum'. Mae'n debyg bod y term ystum yn cyfeirio at siâp tro muriau. Gallai caer fod yn gyfystyr â chastell, ond fe ddichon mai'r muriau o amgylch y dref a olygir, ac os felly nid oes rhaid tybio bod y ferch yn trigo yn y castell ei hun.

14. Eigr   Gw. 9.47n.

15. dywaid   Diwygiodd Parry ddarlleniad y llsgrau yma ac yn 19 isod i'r ffurf safonol dywed, ond nid oes angen hynny, gw. 106.6n.

16. hyd   LlGC 560 a Ll 133 yn unig; ceir at yn y llsgrau eraill, a dyna a ddilynwyd yn GDG er gwaetha'r gyfatebiaeth caled a meddal. Efallai mai ymgais i gywiro'r gynghanedd yw'r darlleniad hwn, ond cymh. 75.31, 'Rhed hyd ei chlust'.

17. byddai   Cymerir mai ystyr amodol sydd yma. Sylwer mai o bydd i hun a geir yn BM 24 (darlleniad sy'n rhoi llinell wythsill), a bydd i hun yn BM 38 a LlGC 560.

18. medrus   Er mai 'celfydd' yw'r ystyr amlycaf heddiw, roedd 'cwrtais' ymhlith ystyron cynnar y gair, gw. GPC 2393, ac mae'n addas iawn yma yng nghyd-destun cyfarchiad.

19. er budd   Mae hyn yn seiliedig ar ar bydd BM 38 ac er bydd BL 14876 (copi o BM 38). Ceir a bydd yn neilliaid y Vetustus, ac oni bydd yn BM 24 (cymh. 17 uchod). Gellid derbyn a bydd, fel y gwnaed yn DGG, a'i gydio wrth fwynwas coeth yn y llinell nesaf, ond prin y byddai Dafydd yn cyfeirio at yr wylan fel 'gwas'. Mae'r r wreiddgoll a geir yma yn fodd i esbonio'r llygriad.

23–4.   Ni oroesodd cerddi serch wrth enw Myrddin na Thaliesin, ond fe ddichon fod rhai'n adnabyddus yn y 14eg ganrif, a bod y cerddi sy'n sôn am Wenddydd, chwaer Myrddin, wedi'u deall fel cerddi serch. Sonia Iolo Goch am ganu serch Taliesin, gw. GIG XXXV.1–4 (tybed ai cyd-ddigwyddiad yw'r cyfeiriad at wylan yn y fan honno?).

23. Merddin   Hon yw'r ffurf a geir yn yr holl lsgrau; gw. TYP3 458–62 a chymh. CBT II, 6.46.

wenithfin    Mae hyn yn seiliedig ar wneithfyn BM 38. Ysgrifennwyd wenieithfin wrth ymyl y ddalen yn y llsgr. honno gan law o'r 18fed ganrif, a derbyniwyd y darlleniad gan Lewis Morris yn ei gopi yn BM 53, ac felly hefyd yn nhestun GDG (a BDG o'i flaen). Mae gwenieithfin yn ddarlleniad ystyrlon (a deall gweniaith yn yr ystyr 'iaith brydferth neu goeth', gw. GPC 1636), ond gwan yw'r dystiolaeth lawysgrifol drosto. Yr unig ddarlleniad yn y llsgrau cynnar sy'n ystyrlon fel y saif yw chwenychwin BM 24 a M 146, ond fe ymddengys mai chwenychvin a geid yn y Vetustus, ac mae'r darlleniad hwnnw'n cefnogi fin fel elfen olaf y gair hwn, a hefyd diwygio wn- i wen- a chadw llafariad sengl yn yr ail sillaf. Ergyd gwenith yma yw 'y gorau neu'r gwerthfawrocaf o'r rhyw' (gw. GPC 1637), cymh. gwenithgerdd gan Rhys Goch Eryri, IGE2 333.17. Dichon fod hwn yn gyfeiriad penodol at lysenw Cian, un arall o'r Cynfeirdd yn ôl Historia Brittonum, sef Gueinth Guaut (= 'Gwenith Gwawd'), gw. CA xv.

24.  Gellid dehongli hon fel enghr. o gynghanedd groes o gyswllt, ond mae'n debycach mai n wreiddgoll sydd yma.

25. siprys   benthyciad o'r S.C. ciprus, lliain main [o Gyprus], gw. GPC 3291 a chymh. GIRh 1.9, 'Digiprys gold seiprys Sieb'. Calediad s + d sy'n gyfrifol am y diffyg treiglad i'r enw sy'n dilyn. Ond dadleuodd Anthony Conran yn The Penguin Book of Welsh Verse, 297, ac yn THSC 1992, 27–32, fod hwn yn gyfeiriad at ynys Cyprus, gydag ynganiad Saesneg yr enw. Cysylltid Cyprus yn arbennig â'r dduwies Fenws, ac roedd yn enwog hefyd am ei gweithfeydd copr. Ar y cysylltiadau rhwng Cyprus, Fenws a'r metel copr ym maes alcemeg gw. ymhellach nodiadau D. J. Bowen yn LlC 7 (1962–3), 247 a LlC 8 (1964–5), 232. Fe ddichon, felly, fod siprys dyn yn golygu Fenws yn benodol.

ciprys   ansoddair yma, 'y mae ymgiprys amdani', gw. GPC 484. Defnyddir y gair fel enw, ond gyda'r un trawiad cynganeddol, yn 20.32, 'A choprs cerdd a chiprys cad'.

copr   lliw gwallt y ferch, mae'n debyg, ond efallai fod arwyddocâd symbolaidd yn perthyn i'r metel yma hefyd, gw. nodyn ar siprys uchod.

26. cyweirbropr   Mae'r ail elfen yn fenthyciad o'r Hen Ffrangeg propre, 'destlus'.

28. y ddyn lanaf   Ceir y vvn decka yn BM 24.