1 Yr wylan deg ar lanw dioer
2 Vnlliw ac eiry nev wenlloer
3 Dilwch yw dy degwch di
4 Darn fal havl dyrnfol heli
5 Ysgafn ar don eigion wyd
6 Esgvdfalch edn bysgodfwyd
7 Yngo'r awn wrth yr angor
8 lawlaw a mi lili mor
9 llythyr vnwaith llathr ianwyd
10 lleinan ymmrig llanw mor wyd
11 [144] cyweirglod bvn kae r glod bell
12 cyrch ystym caer a chastell
13 Edrych a welych wylan
14 Eigr o liw ar y gaer lan
15 dywaid fyngeiriau dyfvn
16 Dewised fi dos at fvn
17 byddai hvn beiddia i hannerch
18 bydd fedrvs wrth fwythvs ferch
19 A bydd dywaid na byddaf
20 fwynwas coeth fyw onis caf
21 I charv r wyf gwbl nwyf nawdd
22 Och wyr erioed ni charawdd
23 Na merddin chwennychfin iach
24 Na Thaliesin i thlysach
25 Siprys dyn giprys gan gopr
26 Rhagorbryd rhy gyweirbropr
27 Och wylan o chai weled
28 grvdd y ddyn lana o gred
29 Oni chaf fwynaf annerch
30 fy nihenydd fydd y ferch
Da' ap Glm'