{ko i yrv y wylan i anerch i gariad}
1 yr wylan deg ar lanw dioer
2 vnlliw ac eiry neu wenlloer
3 dilwch yw dy degwch di
4 darn val haul dyrnvol heli
5 ysgon ar don eigion wyd
6 esgudvalch edn bysgodvwyd
7 yngo'r awn wrth yr angor
8 lowlaw a mi lili mor
9 [400] llythr vnwaith llathr i anwyd
10 lleman ymrig llanw mor wyd
11 cyweirglod bvn caer glod bell
12 cyrch ystym caer a chastell
13 edrych a welych wylan
14 Eigr oliw ar y gaer lan
15 dywaid vyngeiriae dyvyn
16 dewised vi dos ad vyn
17 byddai hvn beiddia'i hannerch
18 bydd vedrus wrth vwythus verch
19 a bydd dywaid na byddaf
20 vwynwas coeth vyw onis caf
21 i charu rwyf gwbl nwyf nawdd
22 och wyr erioed ni charawdd
23 na Merddin chwenychvin iach
24 na thaliesin i thlysach
25 Siprys dyn giprys dan gopr
26 rhagorbryd rhy gyweir bropr
27 och wylan ochai weled
28 grudd y ddyn lana o gred
29 oni chaf vwynaf annerch
30 vynihenydd vydd y verch
Dauid ap Gwilim