1 Yr wylan deg ar lanw dioer
2 vn lliw ar arafwen lloer
3 dilwch yw dy degwch di
4 darn fal haul dyrnfol heli
5 pysgod fach edn pysgodfwyd
6 kyskod ar don eigion wyd
7 yno yrrawn wrth yr angor
8 lowlaw a thi lili mor
9 llithr vnwaith llathr anwyd
10 llyma ym rig llanw mor wyd
11 koweirglod bvn kaer glod bell
12 kyrch ysdym kaer a chastell
13 edrych a welych wiwlan
14 eigr liw ar y gaer lan
15 dowaid fy ngeiriav dyfvn
16 dy ewised fvi dos at fvn
17 bydd i hvn beiddia i hanerch
18 bydd fedrys wrth foddys ferch
19 [159r] Ar bydd dowaid na byddaf
20 fwynwas kaeth fyw onis kaf
21 i charv rwyf gwbl nwyf nawdd
22 och wych arwed ni charawdd
23 na Merddyn wneithfyn
{wenieithfin}fach
24 na Thaliesyn i thlysach
25 Seipris dyn gipris dan gopr
26 Ragor bryd ry gowyr-bropr
27 och wylan io chai weled
28 i grvdd y ddyn lana o gred
29 o ni chaf fwynaf anerch
30 fy nihenydd fydd y Ferch
dafydd ap gwilim ai kant