{ I'r wylan}
1 Yr wylan deg ar lanw dioer
2 vn-lliw ar eiry neu wen-lloer
3 Dilwch yw dy degwch di
4 darn fel haul dyrnfol heli
5 Yscon ar donn eigion wyd
6 escudfalch edn byscodfwyd
7 Yngo'r awn wrth yr angor
8 Lowlaw a mi lili mor
9 llythr ynwaith llathr i anwyd
10 lleian ym-mrig llanw môr wyd
11 Cyweirglod bun cai'r glod bell
12 cyrch ystum caer a chastell
13 Edrych a welych wylan
14 Eigr o liw ar y gaer lan
15 dywaid fyng-eiriau dyvn
16 dewissed fi dos at fun
17 byddai hun beiddia ei hanner[ ]
18 bydd fedrus wrth fwythus fe[ ]
19 A bydd dywaid na byddaf
20 fwyn-was coeth fyw onis caf
21 Ei charu'r wyf gwbl nwyf na[ ]
22 Och wyr erioed ni charawdd
23 na Merddin chwynych-fin iach
24 na Thaliessin ei thlyssach
25 Siprys dyn giprys dann gopr
26 rhagor-bryd rhy gyweir-bropr
27 Och wylan o chai weled
28 grudd y ddyn lanaf o Gred
29 Oni chaf fwynaf annerch
30 fy nihenydd fydd y ferch
dd' ap Gwilym