1 yr wylan dec ar lanw dioer
2 vnlliw ac eira ne wenlloer
3 dilwch yw dy degwch di
4 darn val havl dyrnol heli
5 ysgafn ar don eigion wyd
6 ysgvdvalch edyn byscodvwyd
7 yngo nid oes vwch angor
8 lowlow ami lili mor
9 llythyr vnwaith lle ithrianwyd
10 lleian ymric llanw mor wyd
11 kyweirglod bvn kaer glod bell
12 kyrch ystym kaer achastell
13 edrych a welych wylan
14 eigr liw ar y gaer lan
15 a dywaid yngeirie dyvyn
16 dewissed vi dos at y vvn
17 obydd i hvn beithddia i
annerch
18 bydd vedrvs wrth vwythvs verch
19 oni bydd dywaid na bydda
20 vwynwas koeth vyw onis kaf
21 [207] I charv yrwy gwbwl nwy nawdd
22 och wyr irioed ni charawdd
23 na merddin chwynychwin iach
24 na thaliessin i thlyssach
25 syberys dyn gibyrys dan gopyr
26 rragor bryd ry gowir bropyr
27 och wylan ochai weled
28 grvdd y vvn decka o gred
29 oni chaf vwynaf annerch
30 vynihenydd vydd y verch
dd' ap gwilim