â â â Yr Iwrch
1â â â Tydi'r cariwrch ffwrch ffoawdr,
2â â â Hediad wybren, lwydwen lawdr,
3â â â Dwg hyn o lythr talmythrgoeth
4â â â Er Duw nef ar dy din noeth.
5â â â Cyflymaf wyd, cofl lemain,
6â â â Negesol, cywyddol cain.
7â â â Rho Duw, iwrch, rhaid yw erchi
8â â â Peth o lateieth i ti.
9â â â Grugwal goruwch y greigwen,
10â â â Gweirwellt a bawr gorwyllt ben.
11â â â Talofyn gwych teuluaidd,
12â â â Llamwr allt, llym yw ei raidd.
13â â â Llama megis bonllymoen
14â â â I'r rhiw, teg ei ffriw a'i ffroen.
15â â â Fy ngwas gwych, ni'th fradychir,
16â â â Ni'th ladd cwn, hardd farwn hir.
17â â â Nod fawlgamp, n'ad i filgi
18â â â Yn ôl tes d'oddiwes di.
19â â â Fy llatai wyd anwydael
20â â â A'm bardd at Ddyddgu hardd hael.
21â â â Dwg dithau, deg ei duthiad,
22â â â Y daith hon i dy ei thad.
23â â â Nac ofna di saeth lifaid,
24â â â Na chi yn ôl o chai naid.
25â â â Gochel Bali, ci coesgoch,
26â â â Ac Iolydd, ci efydd coch.
27â â â Adlais hued a gredir,
28â â â O daw yn d'ôl Dywyn dir
29â â â Dos i'r llaid, dewiswr lludd,
30â â â Deall afael dull Ofydd.
31â â â Neidia goruwch hen adwy
32â â â I'r maes ac nac aro mwy.
33â â â Mab maeth erioed glyngoed glân,
34â â â Main dy goes, myn di gusan.
35â â â Ymochel, n'ad dy weled,
36â â â Dros fryn i lwyn rhedyn rhed.
37â â â Debre'r nos heblaw'r ffosydd
38â â â Dan frig y goedwig a'i gwydd
39â â â Â chusan ym, ni'm sym seth,
40â â â Dyddgu liw eirblu eurbleth.
41â â â Cyrch yno'r cariwrch hynod
42â â â Carwn, dymunwn fy mod.
43â â â Ni'th fling llaw, bydd iach lawen,
44â â â Nid â dy bais am Sais hen,
45â â â Na'th gyrn, f'annwyl, na'th garnau,
46â â â Na'th gig nis caiff Eiddig gau.
47â â â Duw i'th gadw, doeth a geidwad,
48â â â A braich Cynfelyn rhag brad.
49â â â Minnau wnaf, o byddaf hen,
50â â â Dy groesi, bryd egroesen.