| Yr Iwrch | |
| Tydi'r cariwrch ffwrch ffoawdr, | |
| Hediad wybren, lwydwen lawdr, | |
| Dwg hyn o lythr talmythrgoeth | |
| 4 | Er Duw nef ar dy din noeth. |
| Cyflymaf wyd, cofl lemain, | |
| Negesol, cywyddol cain. | |
| Rho Duw, iwrch, rhaid yw erchi | |
| 8 | Peth o lateieth i ti. |
| Grugwal goruwch y greigwen, | |
| Gweirwellt a bawr gorwyllt ben. | |
| Talofyn gwych teuluaidd, | |
| 12 | Llamwr allt, llym yw ei raidd. |
| Llama megis bonllymoen | |
| I'r rhiw, teg ei ffriw a'i ffroen. | |
| Fy ngwas gwych, ni'th fradychir, | |
| 16 | Ni'th ladd cŵn, hardd farwn hir. |
| Nod fawlgamp, n'ad i filgi | |
| Yn ôl tes d'oddiwes di. | |
| Fy llatai wyd anwydael | |
| 20 | A'm bardd at Ddyddgu hardd hael. |
| Dwg dithau, deg ei duthiad, | |
| Y daith hon i dŷ ei thad. | |
| Nac ofna di saeth lifaid, | |
| 24 | Na chi yn ôl o chai naid. |
| Gochel Bali, ci coesgoch, | |
| Ac Iolydd, ci efydd coch. | |
| Adlais hued a gredir, | |
| 28 | O daw yn d'ôl Dywyn dir |
| Dos i'r llaid, dewiswr lludd, | |
| Deall afael dull Ofydd. | |
| Neidia goruwch hen adwy | |
| 32 | I'r maes ac nac aro mwy. |
| Mab maeth erioed glyngoed glân, | |
| Main dy goes, myn di gusan. | |
| Ymochel, n'ad dy weled, | |
| 36 | Dros fryn i lwyn rhedyn rhed. |
| Debre'r nos heblaw'r ffosydd | |
| Dan frig y goedwig a'i gwŷdd | |
| Â chusan ym, ni'm sym seth, | |
| 40 | Dyddgu liw eirblu eurbleth. |
| Cyrch yno'r cariwrch hynod | |
| Carwn, dymunwn fy mod. | |
| Ni'th fling llaw, bydd iach lawen, | |
| 44 | Nid â dy bais am Sais hen, |
| Na'th gyrn, f'annwyl, na'th garnau, | |
| Na'th gig nis caiff Eiddig gau. | |
| Duw i'th gadw, doeth a geidwad, | |
| 48 | A braich Cynfelyn rhag brad. |
| Minnau wnaf, o byddaf hen, | |
| Dy groesi, bryd egroesen. | |