Testun Golygedig: 46 - Yr Iwrch

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Yr Iwrch

Tydi'r cariwrch ffwrch ffoawdr,
Hediad wybren, lwydwen lawdr,
Dwg hyn o lythr talmythrgoeth
4 Er Duw nef ar dy din noeth.
Cyflymaf wyd, cofl lemain,
Negesol, cywyddol cain.
Rho Duw, iwrch, rhaid yw erchi
8 Peth o lateieth i ti.

   Grugwal goruwch y greigwen,
Gweirwellt a bawr gorwyllt ben.
Talofyn gwych teuluaidd,
12 Llamwr allt, llym yw ei raidd.
Llama megis bonllymoen
I'r rhiw, teg ei ffriw a'i ffroen.
Fy ngwas gwych, ni'th fradychir,
16 Ni'th ladd cŵn, hardd farwn hir.
Nod fawlgamp, n'ad i filgi
Yn ôl tes d'oddiwes di.
Fy llatai wyd anwydael
20 A'm bardd at Ddyddgu hardd hael.
Dwg dithau, deg ei duthiad,
Y daith hon i dŷ ei thad.
Nac ofna di saeth lifaid,
24 Na chi yn ôl o chai naid.
Gochel Bali, ci coesgoch,
Ac Iolydd, ci efydd coch.
Adlais hued a gredir,
28 O daw yn d'ôl Dywyn dir
Dos i'r llaid, dewiswr lludd,
Deall afael dull Ofydd.
Neidia goruwch hen adwy
32 I'r maes ac nac aro mwy.
Mab maeth erioed glyngoed glân,
Main dy goes, myn di gusan.
Ymochel, n'ad dy weled,
36 Dros fryn i lwyn rhedyn rhed.
Debre'r nos heblaw'r ffosydd
Dan frig y goedwig a'i gwŷdd
 chusan ym, ni'm sym seth,
40 Dyddgu liw eirblu eurbleth.
Cyrch yno'r cariwrch hynod
Carwn, dymunwn fy mod.
Ni'th fling llaw, bydd iach lawen,
44 Nid â dy bais am Sais hen,
Na'th gyrn, f'annwyl, na'th garnau,
Na'th gig nis caiff Eiddig gau.

    Duw i'th gadw, doeth a geidwad,
48 A braich Cynfelyn rhag brad.
Minnau wnaf, o byddaf hen,
Dy groesi, bryd egroesen.