Yr Iwrch
Tydi'r iwrch â'r afl ffoadur,
un sy'n hedfan trwy'r awyr, â'r trowser llwydwyn,
dos â hyn o lythyr cyflym a chain
4 ar dy din noeth er mwyn Duw o nef.
Ti â'r fynwes lamsachus yw'r negesydd
cyflymaf, canwr celfydd.
Myn Duw, iwrch, rhaid gofyn
8 i ti wneud gwaith negesydd.
Gwâl yn y grug uwchben y graig wen,
mae'r un â'r pen heb ei ddofi yn pori glaswellt.
Gofynnwr tâl gwych a chwrtais,
12 un sy'n llamu i fyny'r rhiw, llym yw ei gorn.
Mae'n llamu fel oen tinnoeth
i'r rhiw, teg yw ei wyneb a'i ffroen.
Fy ngwasanaethwr gwych, ni chei di dy fradychu,
16 ni fydd cwn yn dy ladd, y barwn hardd a thal.
Amcan canmoladwy, paid â gadael i filgi
dy ddal di ar ôl gwres.
Ti yw fy negesydd serch bonheddig ei natur
20 a'm bardd at Ddyddgu hardd a bonheddig.
Cymer di, yr un sy'n trotian yn deg,
y daith hon i dy ei thad.
Paid ag ofni saeth finiog,
24 na chi ar dy ôl os cei gyfle i neidio.
Gwylia rhag Pali, ci â choesau coch,
ac Iolydd, ci lliw efydd coch.
Llef sy'n swnio fel cwn hela,
28 os daw yn d'ôl i dir Tywyn
dos i'r gors, yr un sy'n dewis rhwystr,
gafaela yn null Ofydd.
Neidia dros hen fwlch
32 i'r tir agored a phaid ag oedi mwy.
Yr un a fu'n fab maeth erioed i goed hardd y dyffryn,
main yw dy goes, mynna di gusan.
Gwylia, paid â chael dy weld,
36 rheda dros fryn i lwyn rhedyn.
Dere gyda'r nos heibio'r ffosydd
dan ganghennau'r fforest a'i choed
â chusan i mi [gan] Ddyddgu liw plu eira â'r plethau
disglair,
40 ni fydd y ferch gefnsyth yn fy siomi.
Cyrcha yno, yr iwrch gwych,
[lle] carwn a dymunwn fy mod.
Ni fydd llaw yn dy flingo, bydd di'n iach a dibryder,
44 ni fydd dy groen yn mynd yn wisg i hen Sais,
na'th gyrn, f'anwylyd, na'th garnau,
ac ni chaiff y Gwr Eiddig ffals mo'th gig.
Boed i Dduw dy gadw, ceidwad doeth,
48 a braich Cynfelyn rhag brad.
O byddaf fyw i fod yn hen fe wnaf innau
dy fendithio, yr un â'r wyneb lliw egroesen.