| Yr Iwrch | |
| Tydi'r iwrch â'r afl ffoadur, | |
| un sy'n hedfan trwy'r awyr, â'r trowser llwydwyn, | |
| dos â hyn o lythyr cyflym a chain | |
| 4 | ar dy din noeth er mwyn Duw o nef. |
| Ti â'r fynwes lamsachus yw'r negesydd | |
| cyflymaf, canwr celfydd. | |
| Myn Duw, iwrch, rhaid gofyn | |
| 8 | i ti wneud gwaith negesydd. |
| Gwâl yn y grug uwchben y graig wen, | |
| mae'r un â'r pen heb ei ddofi yn pori glaswellt. | |
| Gofynnwr tâl gwych a chwrtais, | |
| 12 | un sy'n llamu i fyny'r rhiw, llym yw ei gorn. |
| Mae'n llamu fel oen tinnoeth | |
| i'r rhiw, teg yw ei wyneb a'i ffroen. | |
| Fy ngwasanaethwr gwych, ni chei di dy fradychu, | |
| 16 | ni fydd cŵn yn dy ladd, y barwn hardd a thal. |
| Amcan canmoladwy, paid â gadael i filgi | |
| dy ddal di ar ôl gwres. | |
| Ti yw fy negesydd serch bonheddig ei natur | |
| 20 | a'm bardd at Ddyddgu hardd a bonheddig. |
| Cymer di, yr un sy'n trotian yn deg, | |
| y daith hon i dŷ ei thad. | |
| Paid ag ofni saeth finiog, | |
| 24 | na chi ar dy ôl os cei gyfle i neidio. |
| Gwylia rhag Pali, ci â choesau coch, | |
| ac Iolydd, ci lliw efydd coch. | |
| Llef sy'n swnio fel cŵn hela, | |
| 28 | os daw yn d'ôl i dir Tywyn |
| dos i'r gors, yr un sy'n dewis rhwystr, | |
| gafaela yn null Ofydd. | |
| Neidia dros hen fwlch | |
| 32 | i'r tir agored a phaid ag oedi mwy. |
| Yr un a fu'n fab maeth erioed i goed hardd y dyffryn, | |
| main yw dy goes, mynna di gusan. | |
| Gwylia, paid â chael dy weld, | |
| 36 | rheda dros fryn i lwyn rhedyn. |
| Dere gyda'r nos heibio'r ffosydd | |
| dan ganghennau'r fforest a'i choed | |
| â chusan i mi [gan] Ddyddgu liw plu eira â'r plethau disglair, | |
| 40 | ni fydd y ferch gefnsyth yn fy siomi. |
| Cyrcha yno, yr iwrch gwych, | |
| [lle] carwn a dymunwn fy mod. | |
| Ni fydd llaw yn dy flingo, bydd di'n iach a dibryder, | |
| 44 | ni fydd dy groen yn mynd yn wisg i hen Sais, |
| na'th gyrn, f'anwylyd, na'th garnau, | |
| ac ni chaiff y Gŵr Eiddig ffals mo'th gig. | |
| Boed i Dduw dy gadw, ceidwad doeth, | |
| 48 | a braich Cynfelyn rhag brad. |
| O byddaf fyw i fod yn hen fe wnaf innau | |
| dy fendithio, yr un â'r wyneb lliw egroesen. | |