Nodiadau: 46 - Yr Iwrch

GDG 116

Mae'r cywydd hwn yn anfon yr iwrch yn llatai at Ddyddgu yn nhŷ ei thad, sef y Tywyn ger Aberteifi. Math o garw bychan bywiog (Saesneg roebuck) yw'r iwrch neu'r cariwrch (gw. nodyn ll. 1 isod). Diflannodd o Gymru yn y 18fed ganrif, ond ei gynefin gynt oedd coedwigoedd a thiroedd uchel. Mae ganddo grwper gwyn (cymh. lwydwen lawdr ll. 2), ac nid oes ganddo gynffon (cymh. dy din noeth ll. 4). Roedd yn negesydd addas iawn oherwydd ei sioncrwydd ac oherwydd ei natur fonheddig dybiedig, gw. ll 16 a P. Lynne Williams, 'Cywydd "Y Carw" Dafydd ap Gwilym: Rhai Ystyriaethau', Y Traethodydd 155 (2000), 80–92. Yn ôl Llyfr Blegywryd roedd yr iwrch yn un o dri anifail, gyda'r cadno a'r dyfrgi, yr oedd gan bob dyn hawl i'w hela ar dir dyn arall (LlB 119.6–7; gw. hefyd 52.26–8 lle sonnir am gŵn yn cymryd iwrch neu gadno neu ysgyfarnog). Ac fe israddiwyd yr iwrch yn Lloegr yn ystod oes Dafydd ap Gwilym, gw. Derek Yalden, The History of British Mammals (London, 1999), 171: 'Roe Deer were apparently downgraded from being beasts of the chase to beasts of the warren in 1338, reputedly because they chased away other deer. This meant that they no longer had the full protection of forest law, and could be hunted by private land-owners.' Cymh. 'Anwadalrwydd' (76) lle sonnir am yr iwrch gyda'r ysgyfarnog a'r wiwer fel anifeiliaid y bydd yn edifar gan ddyn eu dofi.

Cynghanedd: sain 19 ll. (38%); croes 14 ll. (28%); traws 9 ll. (18%); llusg 7 ll. (14%); un ll. ddigynghanedd (2%).

Cadwyd 20 copi llawysgrif o'r cywydd hwn, ac yn eu plith gellir adnabod pedwar fersiwn gwahanol o ran nifer a threfn llinellau. Y cynharaf yw'r un a geir yn Pen 137 a Gw 25, dau gopi sy'n tarddu o'r un gynsail ac sy'n cynnig testun a dau gwpled yn eisiau (17–18, 41–2). Yn nesaf y mae fersiwn H 26, testun ac un cwpled yn eisiau (15–16), er bod tri wedi'u hychwanegu wrth ymyl y ddalen, ond dryslyd o ran trefn llinellau. Ceir fersiwn byr a dryslyd gan Edward Kyffin yn LlGC 5272 (1576–81), a naw cwpled yn eisiau. Yn olaf y mae fersiwn Wiliam Bodwrda yn LlGC 560 lle mae tri chwpled yn eisiau (11–12, 23–4 a 41–2). Yr unig gwpled sydd i'w gael mewn un fersiwn yn unig yw 41–2. O ran darlleniadau mae ansawdd pob fersiwn yn anwastad, ac mae ôl trosglwyddiad llafar i'w weld ar bob un. Nid yw trefn llinellau testun GDG yn adlewyrchu'r un o'r fersiynau hyn, a sylwer bod y llinellau sy'n nodi cyrchfan y daith (19–22) wedi'u gosod yn ddiweddarach yn y gerdd yn GDG.

1.   Y mae tri arall o gywyddau DG yn dechrau trwy gyfarch y gwrthrych gyda 'Tydi . . .', sef 'Mawl i'r Haf' (35), 'Y Cyffylog' (52) ac 'Yr Adfail' (151).

cariwrch   gw. GPC 384 d.g. caeriwrch. Hon yw'r ffurf a geir yn yr holl lsgrau yma ac yn 41 isod. Cymh. GGGl LXXI.24.

2. hediad   Dilynodd Parry H 26, rhediad, ond mae tystiolaeth y llsgrau'n gryfach o blaid y darlleniad hwn, ac mae'r synnwyr hefyd yn gryfach o'i dderbyn, gan fod pwylais cyson ar allu'r carw i lamu'n uchel. Ac mae hwn yn cadw cymeriad rhwng dwy linell y cwpled (er bod cymeriad synhwyrol yn bosibl gan fod y frawddeg yn ymestyn dros ddau gwpled). Yr unig anhawster yw mai ffurf dalfyredig ar ehediad yw hon, a bod y ffurf lawn i'w chael yn 52.1. Ond cymh. hedy yn 47.11. Cymerir bod y terfyniad yn dynodi gweithredydd (gw. GPC 1184 d.g ehediad2).

3. talmythrgoeth   diwygiad Parry ar sail talythrgoeth H 26. Cymh. 137.35, a gw. GPC 3433 d.g. talmithr (lle nodir y ffurf amrywiol talmyrth). 'Annisgwyl' yw'r ystyr sy'n gweddu orau yn GDG 48.35, ac mae honno'n bosibl yma hefyd, ond gwell efallai yw 'sydyn, cyflym', gan gyfeirio at daith y carw.

7.   Cymh. llinell gyntaf 'Y Gal' (85), 'Rho Duw, gal, rhaid yw gwyliaw'.

11. talofyn   gair cyfansawdd ansoddeiriol wedi'i ffurfio o enw a bôn berfol, 'yr un sy'n gofyn am dâl', gan gyfeirio at waith y llatai yn gofyn ffafr y ferch. Nid atebir yr f yn ail hanner y llinell.

16. barwn   darlleniad LlGC 560. Ceir filgwn yn Pen 137 a Gw 25 (atgof, efallai, o'r llinell nesaf sydd yn eisiau yn y fersiwn hwnnw), ac mae'r cwpled yn eisiau yn H 26, a LlGC 5272. Mae hwn yn drosiad addas iawn am yr iwrch gan fod pwyslais yn ll. 19 ar ei natur fonheddig (anwydael).

23.   Llinell ddigynghanedd.

24.   n wreiddgoll.

25. Pali   enw ar gi, 'yr un sidanaidd'.

26. Iolydd   enw arall ar gi. 'Eirchiad' yw'r brif ystyr (h.y. yr un ymbilgar?), ond awgrymir 'dymunol' yn CLlH 133, gw. GPC 2024.

efydd   Dilynodd Parry H 26, celfydd, ond mae tystiolaeth y llsgrau'n gryfach dros hwn, ac mae'n ddisgrifiad digon addas o gi browngoch.

28.   Ceir yr arddodiad i o flaen Dywyn ymhob llsgr. (a daw'n neu rywbeth cyffelyb er mwyn arbed sillaf), ond cytunir â Parry mai enghr. o'r treiglad meddal yn dynodi cyrchfan sydd yma (cymh. 16.4). Y Tywyn ger Aberteifi oedd cartref Dyddgu.

29. dos i'r llaid   Ystyr llaid yma yw 'cors' (gw. GPC 2090). Mae darlleniad GDG, er llid, yn seiliedig ar ir llid H 26.

30. deall afael   LlGC 560 yn unig sy'n darllen afael yma; ceir efo yn y lleill, ond hwn yw'r darlleniad anos. Cymerir bod y ferf deall yn cael ei defnyddio mewn ystyr debyg i'r hyn a geir yn 111.64, sef 'cymryd gafael yn, cydio yn, meddiannu' (gw. GPC 908).

dull Ofydd   ffordd y carwr soffistigedig, sef cyfrwystra llechwraidd; gw. 95.1n.

33–4.   Ni chynhwyswyd y cwpled hwn yn nhestun GDG, ac mae'r darlleniadau amrywiol yn rhoi'r argraff nad yw i'w gael yn H 26, ond mewn gwirionedd y mae i'w gael yno hefyd wrth ymyl y ddalen (fel nifer o linellau eraill y gerdd). O ran cynnwys ac arddull nid oes rheswm i'w wrthod, ond dylid nodi bod fersiwn arall o'r un cwpled i'w gael yn 'Yr Eryr', cywydd llatai a briodolir i Ddafydd ap Gwilym yn y llsgrau. (A196), gw. DGA 36.37–8.

40. eirblu eurbleth   Gwrthododd Parry y darlleniad hwn am fod cerddi eraill yn dangos mai gwallt du oedd gan Ddyddgu (e.e. GDG 45.28), a dilynodd BL 14965, gwynblu geinbleth (cymh. LlGC 560 gwaenblu geinbleth). Ond mae fersiynau Pen 137, Gw 25 a H 26 yn gytûn ar hyn, a gellir deall aur yn yr ail air fel 'disglair'.

41–2.   Fersiwn H 26 yn unig sy'n cynnwys y cwpled hwn, ond nid oes rheswm i amau ei ddilysrwydd.

47. doeth a geidwad   Dyma ddarlleniad H 26 (ceir doeth geidwad yn Pen 137 a Gw 25, ac y doeth geidwad yn LlGC 560). Cymerir felly mai'r arddodiad a = o sydd yma, gw. 39.30n.

48. Cynfelyn   y sant a goffeir yn Llangynfelyn yng ngogledd Ceredigion.

49. o byddaf hen   Diwygiodd Parry i o byddaf ben, darlleniad sydd yn sicr yn well o ran cynghanedd, ond sydd braidd yn anfoddhaol o ran synnwyr. Mae H 26, Pen 137, Gw 25 a LlGC 5272 i gyd yn rhoi hen. Rhaid derbyn, felly, mai cynghanedd sain gadwynog sydd yma gyda phwyslais ar y geiryn o.

50. egroesen   ffrwyth y rhosyn gwyllt neu fieri Mair ac felly lliw cochlyd.