Ir Iwrch
1 Dydd da fo ir Iwrch ffwrch ffowdr
2 hediad wybren lwydwen lowdr
3 dwg hyn o lythr gwiw lythrgoeth
4 da dy naid ar dy din noeth
5 [92] kyflyma wyd cof lemain
6 negesawl kywddawl kain
7 rho dyw Iwrch rhaid yw erchi
8 peth ôl at ethol i ti
9 grvgwal gorvwch y greigwen
10 gweirwellt a bawr gorwyllt ben
13 llama gorvwch bron llymoen
14 ir rhyw teg i ffriw ai ffroen
15 fyngwasgwych nith fradychir
16 nith ladd kwn hardd farwn hir
17 nod fowlgamp nad i filgi
18 yn ôl tes dy oddiwes di
19 fy llatai wyd anwydael
20 am bardd at ddyddgv hardd hael
21 dwg dithav deg i dvthiad
22 y daith hon i dy i thad
25 gochel bali ki koesgoch
26 ag eolydd ki efydd koch
27 adlais bved o kredir
28 o daw n dôl i dowyn dir
29 [93] dos ir llaid dewis y llvdd
30 deall afael dyll vfvdd
31 neidia gorywch hen adwy
32 ir maes ag nag aro mwy
33 mab maeth erioed glyngoed glân
34 main dy goes myn di gysan
35 a mogel nâd dy weled
36 dros fryn i lwyn rhedyn rhed
37 dybre r nos dros yr rhossydd
38 drwy frig y goedwig ai gwydd
39 a chusan ym (bychan beth)
40 dyddgv liw gwaenblv geinbleth
43 nith fling llaw bydd iach lawen
44 nid a dy bais am sais hen
45 nath gyrn fanwyl nath gernav
46 nath gig nis cae Eiddig kav
47 dvw ith gadw y doeth geidwad
48 a braich Cynfelyn rhag brad
49 mi fynaf byddaf heb wên
50 dy groesi bryd egroesen
da: ap Gwilim