| Y Gwynt | |
| Yr wybrwynt, helynt hylaw, | |
| Agwrdd drwst a gerdda draw, | |
| Gŵr eres wyd garw ei sain, | |
| 4 | Drud byd heb droed heb adain. |
| Uthr yw mor eres y'th roed | |
| O bantri wybr heb untroed, | |
| A buaned y rhedy | |
| 8 | Yr awr hon dros y fron fry. |
| Dywaid ym, diwyd emyn, | |
| Dy hynt, di ogleddwynt glyn. | |
| Hydoedd y byd a hedy, | |
| 12 | Hin y fron, bydd heno fry, |
| Och ŵr, a dos Uwch Aeron | |
| Yn glaer deg, yn eglur dôn. | |
| Nac aro di, nac eiriach, | |
| 16 | Nac ofna er Bwa Bach, |
| Cyhuddgwyn wenwyn weini. | |
| Caeth yw'r wlad a'i maeth i mi. | |
| Nythod ddwyn, cyd nithud ddail | |
| 20 | Ni'th dditia neb, ni'th etail |
| Na llu rhugl, na llaw rhaglaw, | |
| Na llafn glas na llif na glaw. | |
| Ni'th ladd mab mam, gam gymwyll, | |
| 24 | Ni'th lysg tân, ni'th lesga twyll. |
| Ni boddy, neu'th rybuddiwyd, | |
| Nid ei ynglŷn, diongl wyd. | |
| Nid rhaid march buan danad, | |
| 28 | Neu bont ar aber, na bad. |
| Ni'th ddeil swyddog na theulu | |
| I'th ddydd, nithydd blaenwydd blu. | |
| Ni'th wŷl drem, noethwal dramawr, | |
| 32 | Neu'th glyw mil, nyth y glaw mawr. |
| Rhad Duw wyd ar hyd daear, | |
| Rhuad blin doriad blaen dâr, | |
| Noter wybr natur ebrwydd, | |
| 36 | Neitiwr gwiw dros nawtir gŵydd, |
| Sych natur, creadur craff, | |
| Seirniawg wybr, siwrnai gobraff, | |
| Saethydd ar froydd eiry fry, | |
| 40 | Seithug eisingrug songry', |
| Drycin yn ymefin môr, | |
| Drythyllfab ar draethellfor, | |
| Hyawdr awdl heod ydwyd, | |
| 44 | Hëwr, dyludwr dail wyd, |
| Hyrddwr, breiniol chwarddwr bryn, | |
| Hwylbrenwyllt heli bronwyn. | |
| Gwae fi pan roddais i serch | |
| 48 | Gobrudd ar Forfudd, f'eurferch. |
| Rhiain a'm gwnaeth yn gaethwlad, | |
| Rhed fry rhod a thŷ ei thad. | |
| Cur y ddôr, par egori | |
| 52 | Cyn y dydd i'm cennad i, |
| A chais ffordd ati, o chaid, | |
| A chân lais fy uchenaid. | |
| Deuy o'r sygnau diwael, | |
| 56 | Dywaid hyn i'm diwyd hael: |
| Er hyd yn y byd y bwyf, | |
| Corodyn cywir ydwyf. | |
| Ys gwae fy wyneb hebddi, | |
| 60 | Os gwir nad anghywir hi. |
| Dos fry, ti a wely wen, | |
| Dos obry, dewis wybren. | |
| Dos at Forfudd felenllwyd, | |
| 64 | Debre'n iach, da wybren wyd. |