Y Gwynt
Gwynt yr awyr, taith rwydd,
twrw anferth sy'n mynd acw,
cerddor wyt ti sy'n gwneud swn garw,
4 ffwl y byd heb droed a heb adain.
Mae'n syfrdanol mor rhyfedd y'th roddwyd
o bantri'r awyr heb yr un droed,
ac mor gyflym y rhedi
8 yn awr dros y bryn uchod.
Dywed i mi, emyn dyfal,
beth yw dy daith, di ogleddwynt dyffryn.
Rwyt ti'n hedfan ar hyd y byd,
12 tywydd y bryn, bydd i fyny'n uchel heno,
och wr, a dos i Uwch Aeron
yn dirion deg, yn gân eglur.
Paid ag aros, paid ag ymatal,
16 paid â bod yn ofnus er gwaethaf Bwa Bach,
[yr un sy'n] gweithredu cwyn gyhuddgar faleisus.
Mae'r wlad a'i chynhaliaeth yn gaeëdig i mi.
[Un sy'n] dwyn nythod, er i ti wyntyllio dail
20 nid yw neb yn dy gyhuddo, ni'th atelir
gan fintai gyflym, na llaw swyddog,
na llafn glas na llif na glaw.
Ni all yr un bod dynol dy ladd (crybwylliad anghyfiawn),
24 ni fydd tân yn dy losgi, ni fydd twyll yn dy
ddinerthu.
Ni fyddi'n boddi, fe'th rybuddiwyd,
ni fyddi'n mynd yn sownd, rwyt ti'n llyfn.
Nid oes angen march cyflym o danat,
28 neu bont ar aber, na chwch.
Ni fydd swyddog na mintai o filwyr yn dy ddal
i'th ddwyn gerbron llys, gwyntylliwr dail brigau'r coed.
Ni fydd golwg yn dy weld, gwâl agored enfawr,
32 fe'th glyw miloedd o bobl, nyth y glaw mawr.
Bendith Duw wyt ti ar hyd y ddaear,
rhu, toriad ffyrnig brigau'r coed deri,
ysgrifennydd yr awyr cyflym ei natur,
36 neidiwr gwych dros lawer o diroedd anial,
natur sych, creadur galluog,
sathrwr yr awyr, taith enfawr,
saethwr ar feysydd eira uchod,
40 chwalwr swnllyd pentyrrau eisin,
storm yn cythryblu'r môr,
bachgen nwyfus ar donnau'r traeth,
awdur gwych awdl sy'n gwasgaru eira ydwyt,
44 gwasgarwr, erlidiwr dail wyt ti,
chwarddwr rhydd [ar ben] bryn,
gwthiwr y môr gwyn ei fron a gwyllt ei hwylbrennau.
Gwae fi am fy mod wedi gosod cariad dwys
48 ar Forfudd, fy merch wych.
Merch a'm gwnaeth yn alltud,
rheda uchod i dy ei thad.
Cura ar y drws, gwna iddo agor
52 i'm negesydd i cyn y wawr,
a chwilia am ffordd ati, os oes modd,
a chana lais fy uchenaid.
Rwyt ti'n dod o'r sêr ysblennydd,
56 dywed hyn i'm morwyn ffyddlon fonheddig:
tra bydda'i fyw,
gwasanaethwr cywir ydwyf.
Truenus yw fy wyneb hebddi,
60 os yw'n wir nad yw hi'n anffyddlon.
Dos uchod, fe weli di'r ferch wen,
dos isod, anwylyd yr awyr.
Dos at Forfudd Llwyd olau ei gwallt,
64 dere'n ddiogel, trysor yr awyr wyt ti.