Nodiadau: 47 - Y Gwynt

GDG 117; SPDG 29; HGDG tt. 155–9.

Cywydd i anfon y gwynt yn llatai at Forfudd yw hwn. Cyfeirir at y Bwa Bach, ond gan mai i dŷ ei thad yr anfonir y gwynt (ll. 50; cymh. 46.22 lle'r anfonir y carw i dŷ tad Dyddgu) efallai nad oedd Morfudd eto'n briod ag ef. Gellir casglu o linellau 17–18 a 49 fod Dafydd wedi'i wahardd o gwmwd Uwch Aeron yn sgil cwyn gyfreithiol gan y Bwa Bach. Gan mai gwynt y gogledd a anfonir, gellid meddwl bod Dafydd rywle i'r gogledd o Uwch Aeron. Ond mae'n debyg na ddylid dehongli daearyddiaeth y gerdd mor llythrennol. Pwysicach, yn ddiau, yw'r hen goel bod gwynt y gogledd yn llesol, fel yr awgryma geiriau Lewys Glyn Cothi, 'Awn gynt, ar ogleddwynt glas, / yn ieuanc iawn, i Euas' (GLGC 122.31–2). Sylwer mai gwynt y deau sy'n tynnu to'r bwthyn yn 'Yr Adfail' (151.27–8). Telyneg Saesneg berthnasol iawn yw 'Blow, northerne wynd' yn llsgr. Harley 2253 o chwarter cyntaf y 14eg ganrif, gw. G. L. Brook (ed.), The Harley Lyrics (Manchester, 1968), 48–50. Ond gofyn i'r gwynt ddanfon y ferch at y bardd a wneir yn honno, a heblaw'r byrdwn yn cyfarch y gwynt ni roddir unrhyw sylw iddo yng nghorff y gerdd.

Mae rhan gyntaf y cywydd yn amlwg yn seiliedig ar y dychymyg neu'r pos, dull poblogaidd iawn yn llenyddol ac yn llafar yn yr Oesoedd Canol. Nid pos sydd yma fel y cyfryw, gan fod y gwynt yn cael ei enwi yn y llinell gyntaf, ond mae'r elfen o baradocs yn nodweddiadol o'r genre – creadur heb draed sy'n gallu rhedeg yn gyflym. Dyma'r elfen gyffredin rhwng y cywydd hwn a 'Cân y Gwynt' yn Llyfr Taliesin (BT 36–8), cerdd sy'n mabwysiadu dull y pos yn agored yn ei geiriau cyntaf: 'Dechymic pwy yw'. Mae rhai pethau tebyg rhwng y ddwy gerdd, fel y gellid disgwyl, e.e. 'heb law a heb troet' (cymh. ll. 4 yma), a 'kanys gwyl golwc' (cymh. ll. 31 yma), ond dull y pos sy'n gyfrifol am y rheini, ac nid oes lle i gredu bod Dafydd yn adleisio 'Cân y Gwynt' yn benodol.

Ceir trafodaeth fanwl ar y cywydd gan Thomas Parry, 'Dafydd ap Gwilym', YB ix (1976), 41–60, a gw. hefyd D. J. Bowen, 'Nodiadau ar Gywydd y Gwynt', ibid, 57–60, lle sonnir am negeswyr proffesiynol y cyfnod.

Cynghanedd: sain 21 ll. (33%); traws 20 ll. (31%); croes 17 ll. (27%); llusg 5 ll. (8%); un llinell ddigynghanedd (1%).

Ceir 69 o gopïau llawysgrif o'r cywydd hwn, ac mae'n amlwg iddo fod yn boblogaidd iawn ar lafar. Yn sgil hynny gwelir cryn dipyn o amrywiaeth o ran darlleniadau a nifer a threfn llinellau. Roedd rhai llinellau yn eisiau yn y testun a geid yn Llyfr Wiliam Mathew, fel y gwelir yn y copïau cyflawn yn Ll 6 a phump o lsgrau Llywelyn Siôn (copi anghyflawn a geir yn Pen 49 am fod dalen ar goll). Ceid fersiwn llawnach yn nhraddodiad y Vetustus, fel y gwelir yn y copi uniongyrchol yn H 26 (a hefyd yn y testun tebyg iawn yn M 146). Mae testunau C 5, C 7, BM 23, a BM 29 yn cynrychioli cam cynharach yn natblygiad y fersiwn hwn (er nad ydynt bob amser yn rhagori ar yr un yn H 26), a gwelir cryn amrywio ynddynt hwy a chopïau diweddarach sy'n dangos bod y testun yn dal i ddatblygu trwy'r 16eg ganrif.

Ni chyfetyb trefn llinellau testun GDG i'r un o'r copïau llawysgrif. Y gwahaniaethau mwyaf arwyddocaol yw lleoliad GDG 31-2 (= 9–10 yma), sy'n dod tua dechrau'r cywydd ymhob copi sy'n ei gynnwys (ond nis ceir yn fersiwn LlWM), a GDG 39–46 (= 11–18 yma), sydd hefyd yn dod cyn y disgrifiad o briodoleddau'r gwynt (a'r tro hwn mae tystiolaeth fersiwn LlWM yn ategu'r Vetustus). Er bod hyn yn creu strwythur braidd yn wahanol yn yr ystyr bod sôn am gyrchfan y daith cyn y disgrifiad estynedig o'r negesydd, fe welir bod yr un peth yn wir mewn gwirionedd am 'Y Carw' ac 'Yr Ehedydd' (cerddi 44 a 46). Llai arwyddocaol yw'r newid trefn o fewn y paragraff lle cynhelir y cymeriad n- (21–32), ond unwaith eto nid yw testun GDG yn adlewyrchu'r un testun llawysgrif. Dilynwyd trefn y Vetustus ar gyfer y paragraff hwn.

3. gŵr eres   Cymerir fod hwn yn gyfystyr ag erestyn, 'clerwr, cerddor', (gw. GPC 1231, a chymh. eresyn yn 158.23), gan gyfeirio at gân y gwynt.

4. drud   Defnyddir yr ansoddair mewn ystyr gadarnhaol, 'dewr, beiddgar', yn 19.25 a 133.2, ond mae'r syniad o ffolineb yn amlwg yn 125.10, 'dyn drud amwyll', a dyna sy'n berthnasol yma mae'n debyg. Un ffôl neu annoeth ei wrhydri yw'r gwynt, gw. GPC 1086. Mae'r ymadrodd 'drud byd' yn dwyn i gof y triawd cyfreithiol, 'Tri chadarn byd: arglwydd, a drud a diddim', a sylwer sut y diffinnir drud yn Llyfr Du'r Waun: 'sew yu ydrut dyn ynvyt' (LlDW 134.27–9).

5. eres   Mae BM 23 a C 7 yn cytuno â fersiwn LlWM yma. Er bod eres yn cael ei ailadrodd o fewn dwy linell, mwy anfoddhaol yw'r ailadrodd uthraruthr yn y llinell hon a geir yn llsgrau eraill traddodiad y Vetustus ac yn GDG. Ac mae'r ystyr 'rhyfeddol' yma yn wahanol i'r defnydd yn ll. 3.

6. pantri   benthyciad o'r S.C. pantri, ystafell lle cedwid bara. Ceir dwy enghr. arall o'r gair mewn ystyr drosiadol yng ngwaith DG, 18.17 (am Niwbwrch) a 40.19 (am y llwyn celyn).

9. dywaid   Ar y ffurf hon gw. 106.6n.

emyn   Dyfynnir y llinell hon yn GPC 1391 fel enghr. o ffurf fachigol gem, ac felly y cyfieithodd Bromwich, 'devoted jewel'. Ond o ystyried y pwyslais ar gân y gwynt mae'n debycach mai 'hymn' sydd yma (gair a fenthyciwyd o'r Saesneg yn y 13eg ganrif, gw. GPC 1211).

11.hedy    Cymh. hediad 46.2.

13. Uwch Aeron   cwmwd yng Ngheredigion i'r gogledd o afon Aeron. Sylwer fod mwyafrif y llsgrau yn darllen o Uwch neu odd Uwch. Y tebyg yw mai'r hen gystrawen heb arddodiad yn dynodi cyrchfan a achosodd y dryswch.

16. Bwa Bach   llysenw gŵr Morfudd, gw. Rhagymadrodd ...

18. maeth   Gallai hwn fod yn enw, 'cynhaliaeth', neu'n ffurf orffennol y ferf magu (cymh. CBT II, 18.37). Ar sail testun GDG, lle saif y llinell hon yn union o flaen y darn lle enwir Morfudd, dewisodd Bromwich a Thomas yr ail bosibilrwydd yn eu cyfieithiadau, gan gymryd y rhagenw fel gwrthrych yn cyfeirio at Forfudd. Ond gan nad oes sôn am Forfudd yn y cyd-destun hwn, rhaid deall maeth fel enw, a'r rhagenw meddiannol yn cyfeirio'n ôl at wlad.

21. llaw   Mae'r gair hwn yn odli â'r brifodl, ac fe ystyrid hynny'n fai mewn cyfnod diweddarach ('gormodd odlau', gw. CD 300–1). Mae'n debyg mai er mwyn osgoi'r odl y newidwyd llaw i llw mewn rhai copïau.

23. gam gymwyll   Mae BM 23 a C 7 yn cefnogi fersiwn LlWM yma eto. Ceir o amwyll yn llsgrau eraill traddodiad y Vetustus (darlleniad sy'n newid y gynghanedd o sain i lusg). Digwydd cymwyll mewn sangiadau cyffelyb yn GDG 43.17, 84.30 a 136.8.

25.   n wreiddgoll.

26. diongl   Gair a barodd gryn drafferth i'r copïwyr. Mae'r enghr. yn 'Mis Mai' (32.15) yn ategu dilysrwydd y darlleniad hwn, ac mae'r ystyr 'llyfn, esmwyth' yn gweddu yn y ddau achos.

  n wreiddgoll (neu gynghanedd groes o gyswllt).

30. i'th ddydd   Yn ôl GPC 1119 mae hon yn enghraifft o'r ystyr 'oes', ac felly y'i deallwyd gan y cyfieithwyr. Ond mwy ystyrlon yng nghyd-destun dal gan swyddog yw deall dydd fel 'barn', h.y. diwrnod penodedig ar gyfer achos llys.

35–6.   Dilynodd Parry BM 23 a C 7 wrth gysylltu'r cwpled hwn â'r darn o gymeriad estynedig yn 19–32, ond mae'n gweddu'n well fel rhan o'r gyfres hon o enwau'n disgrifio'r gwynt fel y mae yn y Vetustus.

35. noter   o'r Ffrangeg notaire neu'r Saesneg noter. Tybiai Parry (GDG 531) fod ystyr benodol iawn i'r gair, sef 'a writer of the musical score in MSS', ac awgrymodd felly mai'r syniad yw 'fod y gwynt yn gosod y cymylau hyd yr awyr fel y gosodir y nodau cerddoriaeth ar y memrwn.' Ond un yn unig o'r ystyron a gynigir yn OED yw honno, ac ystyr fwyaf cyffredin y gair oedd 'ysgrifennydd' (gw. GPC 2599). Yr un yw'r ddelwedd yn y bôn, sef fod y gwynt fel petai'n ysgrifennu'r cymylau (neu efallai ddail) ar femrwn yr awyr.

38. seirniawg   Hon yw'r unig enghr. o'r gair a nodir yn GPC 3214, a chynigir yr ystyr 'sathrwr' yn betrus. Cynigiodd Parry (1976, 50–1) mai cwmwl yw wybr yma, ac mai'r syniad yw 'fod y gwynt yn defnyddio'r cymylau fel cerrig sarn ar ei siwrnai faith, gan frasgamu o'r naill gwmwl i'r llall.'

39–40.   Yn ôl testun GDG (heb ddim atalnodi ar ddiwedd y llinell gyntaf) mae'r ddwy linell i'w cymryd yn un uned synnwyr, ac felly y deallwyd hwy gan y cyfieithwyr. Ond gosodwyd coma ar ddiwedd 39 ac ar ôl eisingrug yn GDG3. Cymerwyd eisingrug yn wrthrych saethydd, ac felly'n ddelwedd am yr eira, a seithug yn ansoddair yn ei ragflaenu. Ond nodir enghrau yn GPC 3217 o seithug fel enw, 'oferedd, methiant, rhwystrad, rhwystredigaeth, siom, siomedigaeth'. Y gwynt fyddai'n peri methiant y crug eisin trwy ei chwalu. O'i ddeall felly gellir cymryd y ddwy linell ar wahân, a songry' yn disgrifio seithug yn hytrach na saethydd. Ond ar y llaw arall y mae cyswllt ffigurol rhwng y ddwy linell am fod eisin sy'n cael ei chwythu gan y gwynt yn edrych fel eira, a cheir eisingrug yn ddelwedd yn 'Yr Eira' (OBWV t. 117).

41. ymefin   C 5 a BM 23. Yr unig enghr. arall o'r gair hwn yw un mewn awdl gan Risierdyn, 'torf ymefin' (GSRh 6.74), ond yn anffodus nid yw honno'n llawer o gymorth i benderfynu'r ystyr. Cynigir 'cythryblu' yn betrus yn GPC 3774, ac awgrymir hefyd gyswllt â'r ferf ymewino, 'crafangu'.

42. drythyllfab   'Bywiog, nwyfus' yw drythyll yma, gw. GPC 3645 d.g. trythyll, a chymh. 108.28. Cyfieithodd Thomas y gair cyfansawdd fel 'clown' (gw. hefyd sylw i'r un perwyl gan Parry, 1976, 51), a Bromwich fel 'reveller', ond nid oes tystiolaeth bendant dros yr ystyron hynny.

43.   Fe ymddengys fod y ll. hon yn llwgr ymhob copi (ond nis ceir yn BM 23, C 7, BM 29, BM 31 a M 148). Mae darlleniad y testun yn seiliedig ar fersiwn LlWM yn bennaf, ac mae'n cynnig rheswm am y dryswch o ran geiriau prin a chynghanedd afreolaidd (r berfeddgoll). Ceir hyawdr ('awdur gwych') gan Ruffudd Gryg yn ei farwnad i DG (GDG t. 427), a cheir heod ('yn gwasgaru eira') yn 'Yr Adarwr' (GDG 30.2). Sylwer mai gwan yw'r dystiolaeth dros hudol ydwyd GDG.

47. pan   Gw. GPC 2677 lle dyfynnir tair enghr. yn dilyn 'gwae ...' yn yr ystyr 'gan, oherwydd'.

48. gobrudd   Mae C 5, C 7, BM 23 a BM 29 yn gytûn yn erbyn llsgrau eraill traddodiad y Vetustus, lle ailwampiwyd y llinell i roi cynghanedd groes, Ar Forfudd, araf eurferch.

54. chân   Gwan yw'r dystiolaeth dros chŵyn GDG.

58. corodyn   Cynigiodd Parry (GDG 462) mai 'peth bychan, teclyn, tegan' yw'r ystyr, ac fe'i dilynir yn GPC 564. Ond dilynir awgrym Bromwich, SPDG 121, sy'n cyfieithu 'follower' ac yn cysylltu'r gair â'r Saesneg corrodie, Lladin corrodium, sef cynhaliaeth i was mewn mynachlog (gw. WCCR 383), ac yn ehangach pensiwn am oes i was ffyddlon. Gw. hefyd 31.8n.

63.   Dewisodd Parry ddarllen feinwen felenllwyd er mwyn cael cynghanedd yn y llinell, ond mae tystiolaeth y llsgrau'n gryf iawn o blaid Forfudd, ac felly ll. ddigynghanedd. Mae'n debyg bod llwyd yn cyfeirio at ei chyfenw, cymh. 105.48 etc.