kywydd y gwynt
1 Yr wybr wynt helynt hylaw
2 agwrdd drwst a gerdda draw
3 gwr eres wyd garw ysain
4 dryd byd heb droed heb adain
27 nyd raid march byan danad
28 nay bont ar aber na bad
5 ythr yw mor eres ythroed
6 obantri wybr heb yn troed
7 gan ebrwydded y redy
8 yr awr hon dros y vron vry
23 nyth ladd mab mam gam gymwyll
24 nyth lysk tan nyth lesga twyll
11 hydoedd ybyd y hedy
12 hyn ny vron bydd heno vry
15 nac aro di nac airiach
16 nac ofna er y bwa bach
19 [29] nythodd ddwyn byd nithyd ddail
20 nythitiwd dim athattail
21 na lly rygl na llw raglaw
22 na llafn glas na llif na glaw
25 ny byddy nayth rybyddiwyd
26 ny doy ynglyn gwr deongl wyd
37 dy nattyr kreadyr kraff
38 sirnic wybr siwrnai gobraff
39 saythydd ar vroydd eiria vryf
40 seithic eisingryc son gryf
31 nyth wyl drem noyth wal dramawr
32 veth glyw mil nyth yglaw mawr
43 heawd awdl hyaid ydwyd
44 hydwr dylydwr dail wyd
33 rad dyw wyd ar hyd dayar
34 ryad blin doriad blaen dar
49 riain am gwnaeth ynghaeth wlad
50 red vry rof athy ythad
51 kyr yddor par agori
52 kyn y dydd ym kenad i
53 achais ffordd eti ochaid
54 achan lais yr ychenaid
61 dos vry ti awely wen
62 dos obry dewis wybren
63 [30] dos at vorfydd velen llwyd
64 da bren iach da wybren wyd
dd' ap Glm' ai kant