ir gwynt
1 yr wybrwynt helynt hylaw
2 agwrdd drwst a gerdda draw
3 gwr eres wyd garw i sain
4 drud byd heb droed heb adain
5 eithr a thrwst arythr ith roed
6 o bantri wybr heb untroed
7 a buaned i rhedy
8 yrowron dros y fron fry
9 [186v] dowaid ym diwyd emyn
10 dy hynt dduogleddwynt glyn?
33 rhad dyw wyd ar hyd daear
34 rhyad blin doriad blaen dar
11 ar hyd y byd y rhedy
12 hin y vron bydd heno fry
13 och wr dos odduwch Aeron
14 yn glaer deg yn eglur don
17 cyhudd gwyn wenwyn ynni{weini}
18 caeth ywr wlad ai maeth y mi
15 ag aro di{ac
ero fi} nag eiriach
16 nag ofna rhag y bwa bach
19 nithyd twyn cyd noethyd dail
20 ni thittia neb nith attail
21 na llu rhugl na llaw rhaglaw
22 na llafn glas na llif na glaw
23 nith ladd mab mam o amwyll
24 nith lysg tan nith lesga twyll
25 ni boddi ni rybyddiwyd
26 nid ai nglyn diongl wyd
27 nid rhaid march buan danad
28 neu bont ar aber na bad
31 nith wyl drem noethwal dramawr
32 fo'th glyw mil nyth y glaw mawr
35 notter wybr nattur ebrwydd
36 neittiwr gwych dros naw tir gwydd
45 hyrddwr chwarddwr breiniwr brynn
46 hwyl breinnwynt heli bronwyn
41 dryckin ym myddin y mor
42 drythyllfab ar draethellfor
39 seithydd ar fron fynydd fry
40 seithug eissingrug songry
37 sych nattur creadur craff
38 seirniog wybr siwrnai gobraff
47 [187r] gwae fi pan roddais i serch
48 gobrudd ar forfudd f'eurferch
49 yr hon am gwnaeth yn gaethwlad
50 rhed fry rhod a thy i thad
51 cur y ddor par egori
52 cyn y dydd im cennad i
53 a chais ffordd atti o chaid
54 a chwyna lais ychenaid
55 deui or sygnau diwael
56 dywaid hyn im diwyd hael
57 er hyd yn y byd i bwy
58 creded mai cowir ydwy
59 ys prudd yw fwyneb hebddi
60 os gwir hyn nas cowir hi
62 dos obry dewis wybren
61 dos fry tya gwely gwen
63 dos at feinwen felenllwyd
64 debre yn iach da wybren wyd
dafydd ap gwilym