1 Yr wybr wynt helynt hylaw
2 a gwrdd drwst a gerdda draw
3 Gwr eres wyd garrw i sain
4 drvd byd heb droed heb adain
5 arrvthr yw mor eres ithrroed
6 o bantri wybr heb vn troed
7 a byaned yr hedy
8 yr awr hon dros y vron vry
9 dowaid ym diwyd emyn
10 dy hynt diogleddynt glyn
33 Rrad tuw wyd ar hyd tayar
34 Rvad blin dorriad blaen dar
11 Ar hydoedd byd yr hedy
12 hin y vron bydd henno vry
13 och wr dos o ddvwch aerron
14 yn glaer dec yn eglur don
17 o hudd gwyn wenwyn weini
18 kaeth ywr wlad ai maeth i mi
15 ac errof vi nagerriach
16 Na gofna er y bwa bach
25 Ni boddi ni rrybuddwyd
26 Ni dai glyn di ongl wyd
31 Ni thwyl drem noeth vawl dramawr
32 Nevth glyw mil nyth y glaw mawr
23 Nith ladd mab mam gam gymwyll
24 Nith lysc tan nith lesga twyll
21 [10r] Na llu rrvgl naw rraglaw
22 Na llafn glas na llif glaw
19 Nythod twyn kyd noeth vd tail
20 Ni thittia neb nithetail
27 Nid rraid march byan danad
28 Nev bont ar aber ne bad
35 Noter wybr natur ebrwydd
36 Neitiwr gwiw dros nowtir gwydd
45 hyrddwr chwardd breiniwr bryn
46 hwyl breinwynt heli bronwyn
41 drykin yn ymevin mor
42 dryth yll vab ar draethell vor
39 seithydd ar vroydd eira vry
40 seithyc esingryc songry
37 sych nattur krayadur kraff
38 seirinoc wybr siwrrai gobraff
47 Gwae vi pan roddais i serch
48 o brvdd ar vor vudd vevr verch
49 Riain am gwaeth yn gaeth wlad
50 Red vry rrod a thy i thad
51 Kur y ddor par y gorri
52 kyn y dydd im kenad i
53 A chais ffordd ati ochaid
54 A chan lais yr vchenaid
55 De vi or sygnav diwael
56 Dywaid hyn im diwyd hael
57 Er hyd yny byd y bwy
58 Koredwynt kowir ydwy
59 ys prudd yw vwyneb hebddi
60 os gwir mae anghowir hi
62 dos o bry dewis wybrenn
61 dos vry ti awely wenn
63 dos at vorvydd velenllwyd
64 debre yn iach da wybren wyd
dd. ap gwilym ai kant