C 7, 142–3   
    kowydd y gwynt
 
1    y rwybyrwynt helynt hylaw
2    a gwrdd drwst a gerdda draw
3    gwr eres wyd garw i sain
4    drvd byd heb droed heb adain
5    aruthr ywr mor eres i throed
6    o bantri wybyr heb vntroed
7    a buaned i rhedy
8    y rawr hon dros y fron fry
9    dowaid ym diwid emyn
10    dy hynt diogleddwynt glyn
33    rhad tuw wyt ar hyd tayar
34    rhuad blin doriad blaen dar
11    ar hydoedd byd yr hedy
12    hin y fron bydd heno fry
13    och wr dos o ddywch aeron
14    yn glaer deg yn eglvr don
17    o hvd gwyn wenwyn weini
18    kaeth ywr wlad ai maeth i mi
15    ag erof fi nag eiriach
16    nag ofna er y bwa bach
25    ni boddi ni rybuddiwyd
26    ni dai ynglyn di onglog wyd
31    nith wyl drem noeth fawl dramawr
32    nith glyw mil nyth y glaw mawr
23    nith ladd mab mam gam gymwyll
24    nith lysg tan nith lesg twyll
21    na llv rhvgvl na llaw rhaglaw
22    na llafn glas na llif na glaw
19    nythod twyn kyn noethyd tail
20    ni thittia neb ni thattail
27    [143] nid rhaid march buan danad
28    na bont ar aber na bad
35    notter wybyr nattvr ebrwydd
36    neittiwr gwiw dros nowtir gwydd
45    hyrddwr chwardd breinniwr bryn
46    hwyl breinwynt heli bronwyn
41    drykkin y myddin mor
42    drythyllfab ar draethellfor
39    seythydd ar fron eira fry
40    seythig y singrig songry
37    sych nattvr kryadyr kraff
38    seirniog wybr siwrnai gobraff
47    gwae fi pan roddais i serch
48    o brvdd ar forfydd fevrferch
49    rhiain am gwnaeth yn gaethwlad
50    rhed fry rhod athy i thad
51    kvr y ddor par y gori
52    kyn y dydd im kenad i
53    a chais ffordd atti o chaid
54    a chan lais yr ychenaid
55    dewi or svgnav diwael
56    dowaid hyn im diwyd hael
57    er hyd yn y byd i bwy
58    koredwynt kowir ydwy
59    os prvdd yw fwyneb hebddi
60    os gwir ma anghowir hi
62    dos obrv dewis wybren
61    dos fry ty a gwely gwen
63    dos at forfydd felenllwyd
64    debre yn iach da wybren wyd
 
    Davidd ap gwillim ai kant