â â â Galw ar Ddwynwen
1â â â Dwynwen deigr arien degwch, 
2â â â Da y gwyr o gôr fflamgwyr fflwch 
3â â â Dy ddelw aur diddoluriaw 
4â â â Digion druain ddynion draw. 
5â â â Dyn a wylio, gloywdro glân, 
6â â â Yn dy gôr, Indeg eirian, 
7â â â Nid oes glefyd na bryd brwyn 
8â â â A êl ynddo o Landdwyn. 
9â â â Dy laesblaid yw dy lwysblwyf, 
10â â â Dolurus ofalus wyf. 
11â â â Y fron hon o hoed gordderch 
12â â â Y sydd yn unchwydd o serch, 
13â â â Hirwayw o sail gofeiliaint, 
14â â â Herwydd y gwn, hwn yw haint, 
15â â â Oni chaf, o byddaf byw, 
16â â â Forfudd, llyna oferfyw. 
17â â â Gwna fi yn iach, wiwiach wawd, 
18â â â O'm anwychder a'm nychdawd. 
19â â â Cymysg lateirwydd flwyddyn 
20â â â Â rhadau Duw rhod a dyn. 
21â â â Nid rhaid, ddelw euraid ddilyth, 
22â â â Yt ofn pechawd fethlgnawd fyth. 
23â â â Nid adwna, da ei dangnef, 
24â â â Duw a wnaeth, nid ai o nef. 
25â â â Ni'th wyl mursen eleni 
26â â â Yn hustyng yn yng â ni. 
27â â â Ni rydd Eiddig ddig ddygnbwyll 
28â â â War ffon i ti, wyry ei phwyll. 
29â â â Tyn, o'th obr, taw, ni thybir 
30â â â Wrthyd, wyry gymhlegyd hir, 
31â â â O Landdwyn, dir gynired, 
32â â â I Gwm-y-gro, gem o Gred. 
33â â â Duw ni'th omeddawdd, hawdd hedd, 
34â â â Dawn iaith aml, dyn ni'th omedd. 
35â â â Diamau weddïau waith, 
36â â â Duw a'th eilw, du ei thalaith. 
37â â â Delid Duw, dy letywr, 
38â â â Dêl i gof, dwylaw y gwr, 
39â â â Traws oedd y neb a'i treisiai, 
40â â â Tra ddêl i'm ôl trwy ddail Mai. 
41â â â Dwynwen, pes parud unwaith 
42â â â Dan wydd Mai a hirddydd maith, 
43â â â Dawn ei bardd, da, wen, y bych; 
44â â â Dwynwen, nid oeddud anwych. 
45â â â Dangos o'th radau dawngoeth 
46â â â Nad wyd fursen, Ddwynwen ddoeth. 
47â â â Er a wnaethost yn ddawnbwys
48â â â O benyd y byd a'i bwys;
49â â â Er y crefydd, ffydd ffyrfryw, 
50â â â A wnaethost tra fuost fyw; 
51â â â Er yr eirian leianaeth 
52â â â A gwyrdawd y coethgnawd caeth; 
53â â â Er enaid, be rhaid yrhawg, 
54â â â Brychan Yrth, breichiau nerthawg; 
55â â â Eiriol er dy greuol gred, 
56â â â Yr em wyry, roi ymwared.