Galw ar Ddwynwen
Dwynwen, a'th harddwch fel dagrau barrug,
mae dy ddelw euraid, o gangell lawn canhwyllau sy'n llosgi'n
llachar,
yn gwybod yn iawn sut i iacháu
4 dynion dig a thruenus draw.
Y dyn a fo'n gwylio (adeg loyw deg)
yn dy gangell, Indeg ddisglair,
ni fydd yr un clefyd na meddwl digalon
8 o'i fewn pan â o Landdwyn.
Dy dyrfa wylaidd yw dy blwyfolion duwiol,
clwyfus a llawn gofalon wyf fi.
Mae'r fynwes hon oblegid hiraeth am gariadferch
12 wedi ei chwyddo'n llwyr gan serch,
gwayw hir a'i sail mewn pryder,
gan fy mod yn gwybod (dyma yw salwch)
os na chaf (os byddaf byw)
16 Forfudd, mai ofer fydd imi fyw o gwbl.
Iachâ fi (moliant i dras deilwng)
o'm llesgedd a'm hafiechyd.
Cyfuna am flwyddyn swydd llatai
20 tuag at y ferch â bendithion Duw.
Afraid, y ddelw euraid ddi-feth,
yw iti ofni chwant pechadurus y cnawd fyth.
Ni fydd Duw (da ei dangnefedd)
24 yn dadwneud yr hyn a wnaeth, nid ei o'r nefoedd.
Ni fydd yr un ferch fursennaidd eleni
yn dy weld yn sibrwd â ni mewn cyfyngder.
Ni rydd Eiddig flin, ddybryd ei feddwl
28 ffonnod i ti, ferch ddiwair ei meddwl.
Dos - oherwydd dy haeddiant (cadwa'n dawel) ni fydd neb
yn dy ddrwgdybio, y wyryf â'r cwmni helaeth -
o Landdwyn (taith ddi-ffael)
32 i Gwm-y-gro, anwylyd yr holl fyd.
Ni wnaeth Duw dy wrthod, tangnefedd rhwydd,
bendith i genedl fawr, ni fydd dyn yn dy wrthod.
Gwaith sicr gweddïau,
36 fe eilw Duw arnat, y ferch â'r benwisg ddu.
Boed i Dduw, dy letywr,
(cofier hynny) ddal dwylo'r gwr -
creulon fyddai'r sawl a'i treisiai hi -
40 tra daw hi i'm canlyn drwy ddail Mai.
Dwynwen, petait ti'n peri hyn unwaith
dan goed Mai ac yn sicrhau hirddydd maith,
rhodd ei bardd, bendith arnat, ferch;
44 Dwynwen, ni fuost erioed yn un sâl.
Dangos â'th fendithion coeth eu dawn
nad mursen mohonot, Ddwynwen ddoeth.
Er mwyn holl benyd y byd a'i drymder
48 a wnaethost yn gyflawn o ras;
er mwyn y defosiwn (ffydd gadarn)
a ddangosaist tra buost byw;
er mwyn y morwyndod hardd
52 a diweirdeb y cnawd pur rhwym;
er mwyn enaid (os oes rhaid yn awr)
Brychan Yrth â'r breichiau nerthol;
eiriol di er mwyn dy ffydd waedlyd,
56 anwylyd ddiwair, am roi imi waredigaeth.