Hafan

Dafydd Johnston, 'Awduraeth'

Gwahaniaethir rhwng tri dosbarth o gerddi yn y golygiad hwn, sef y 147 o gerddi a dderbynnir yn waith DG (a 4 o waith Gruffudd Gryg yn yr ymryson), 19 o gerddi ansicr eu hawduraeth, a’r cerddi niferus a briodolir i DG mewn rhai llawysgrifau ond y bernir nad ei waith ef ydynt, sef dosbarth a adwaenir fel cerddi’r apocryffa. Rhaid pwysleisio o’r cychwyn nad yw’r ffiniau rhwng y tri dosbarth hyn yn rhai absoliwt o gwbl. Fel y ceir gweld, mae rhesymau dros amau dilysrwydd ambell un o’r cerddi a gynhwyswyd yn y canon, ac ar y llaw arall mae lle i ddadlau o blaid dilysrwydd pob un o’r cerddi ansicr eu hawduraeth ac ambell un o gerddi’r apocryffa hefyd.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ysgrif

 

Developed and Maintained by Digital Humanities at Swansea University | Hawlfraint - Prifysgol Abertawe / Copyright - Swansea University | Rhestr Cerddi / Poem List