Huw Meirion Edwards, 'Y Cyd-destun Llenyddol'Pe bai Dafydd ap Gwilym wedi ei eni ychydig ddegawdau ynghynt buasai ei ganu yn wahanol iawn. Daeth i’r byd o fewn cenhedlaeth i drechu’r olaf o’r tywysogion annibynnol Cymreig, ac yn sgil hynny ddileu prif foddion cynhaliaeth y gyfundrefn farddol fel y câi ei diffinio yn Nghyfraith Hywel Dda. Dosbarth yr uchelwyr tiriog, ac nid yr hen dywysogaeth, fyddai pennaf noddwyr y beirdd bellach. Er trymed yr ergyd fe lwyddodd y beirdd i ymaddasu i’r sefyllfa wleidyddol. Yn y traethawd hwn archwilir ac esbonnir cyd-destun llenyddol ac amgylchiadau cymdeithasol newydd canu Dafydd ap Gwilym. Cliciwch yma i lawrlwytho'r ysgrif
|
Developed and Maintained by Digital Humanities at Swansea University | Hawlfraint - Prifysgol Abertawe / Copyright - Swansea University | Rhestr Cerddi / Poem List