| Llw Gau | |
| Y ferch anllad a'm gwadawdd, | |
| Orlliw haul, ar ei llw hawdd, | |
| Cam iawn wedy'r cymwynas, | |
| 4 | Â'r geiriau glud i'r grog las, |
| Wych eurddyn, o chyhyrddawdd | |
| Ymi â hi, amau hawdd, | |
| Eiliw Enid, lw anoeth, | |
| 8 | Elid yn ôl, aelod noeth. |
| Do do law, da deuluwas, | |
| Dawn i'i bardd, do enau bas; | |
| Do ddwyfron dan fedwfron fad, | |
| 12 | Do ddeufraich, nid oedd afrad; |
| Do bob cyfryw byw o beth, | |
| Digri sôn, do groesaneth. | |
| Deddyw o'i phen lw diddim, | |
| 16 | Do do – o gŵyr Duw ado dim. |