Hafan
Confensiynau
Y Trawsysgrifiadau
Wrth drawsysgrifio testunau’r llawysgrifau defnyddiwyd y confensiynau canlynol:
Dynoda llythrennau italig ddarn o destun sy’n anodd ei ddarllen.
Dynoda bachau petryal gwag ddarn o destun na ellir ei ddarllen o gwbl.
Yn achos y ddau destun o Lawysgrif Hendregadredd (rhifau 1 a 9) defnyddir dotiau
i ddynodi llythrennau y gellir eu cyfrif ond na ellir eu darllen.
Dynoda bachau petryal o gwmpas llinell(au) yn y testun fod y darn hwnnw wedi’i
ychwanegu’n ddiweddarach gan y llaw wreiddiol (fel arfer wrth ymyl y testun
gydag arwydd i ddynodi ei safle).
Dynoda llythrennau uwchben llinell y testun (‘superscript’) ychwanegiad neu
gywiriad gan y llaw wreiddiol (nid o reidrwydd uwchben y llinell).
Dynoda llinell ddileu drwy lythyren neu air fod y darn o destun wedi’i ddileu yn
y llawysgrif (ond nid o reidrwydd gan linell drwyddo; gall fod yn ddotiau odano).
Ni nodir newidiadau gan lawiau diweddarach fel arfer, ond lle gwneir hynny (e.e.
teitlau neu linellau wedi’u hychwanegu) defnyddir bachau cyrliog i’w dynodi.
Y Stemâu
Darperir stema ar gyfer copďau llawysgrif pob cerdd er mwyn amlygu eu perthynas.
Am allwedd i’r byrfoddau a ddefnyddir i gyfeirio at y llawysgrifau gw. ‘Byrfoddau’.
Gosodir y llawysgrifau cynharaf ar frig y stema fel arfer, ond nid yw safle
perthynol pob llawysgrif o reidrwydd yn arwydd o’u dyddiad. Defnyddir print trwm
ar gyfer blychau testun y copďau cynradd, sef y rhai sy’n tarddu’n uniongyrchol
o ffynonellau coll cynnar. Os yw’r llawysgrif goll yn un hysbys (Llyfr Gwyn
Hergest, y Vetustus Codex, Llyfr Wiliam Mathew, ‘Hen Lyfr Arall’, a chynsail
Llywelyn Siôn) fe’i dynodir gan flwch testun â llinellau dotiog. Lle bo
ffynhonnell gyffredin dau neu ragor o gopďau yn anhysbys fe’i cynrychiolir gan
‘X’. Os yw testun diweddar yn amlwg yn perthyn i un cynharach hysbys, ond heb
fod yn gopi uniongyrchol ohono yn ôl pob golwg, dynodir y berthynas gan linell
ddotiog. Gall hynny olygu bod copi coll yn sefyll rhyngddynt, neu fod y copi
diweddar yn un rhydd iawn. Mae unrhyw lawysgrifau a adewir ar waelod y stema yn
rhai diweddar na lwyddwyd i olrhain eu perthynas â fersiwn hysbys, gan amlaf am
eu bod yn anghyflawn. Yn achos dwy gerdd, rhifau 3 a 153, bu’n amhosibl llunio
stema manwl am fod y testunau’n rhy debyg i’w gilydd, a’r cwbl y gellid ei wneud
oedd grwpio’r llawysgrifau’n fras.
Anodd iawn yw profi perthynas uniongyrchol rhwng un llawysgrif a’r llall (oni
bai bod tystiolaeth y tu allan i’r testunau), a hynny’n bennaf oherwydd
parodrwydd copďwyr i ailwampio’r testun yn fympwyol. Byddent yn tynnu ar fwy nag
un ffynhonnell yr un pryd weithiau (fel y dangosir yn y stemâu mewn rhai
achosion), a rhaid ystyried y posibilrwydd y gallai’r cof am adroddiad llafar
ymyrryd â’r gwaith copďo. Y dystiolaeth fwyaf dibynadwy ar gyfer olrhain
perthynas yw nifer a threfn y llinellau yn y testun, ac ar y sail honno gellir
gwahaniaethu’n weddol hyderus rhwng fersiynau yn achos rhai cerddi (e.e. rhifau
36 a 47), ond nid yw’n berthnasol i bob cerdd o bell ffordd. Rhaid derbyn,
felly, fod rhai o’r stemâu yn fwy petrus na’i gilydd, a dylid defnyddio pob un
yn bennaf fel canllaw i ddilyn y trafodaethau manwl ar y testunau a geir yn y
nodiadau i’r cerddi.
|