Dafydd ap Gwilym logo

Hafan

Diolchiadau


Mae ein dyled pennaf i’r AHRC am y nawdd ariannol dros bum mlynedd a wnaeth y prosiect hwn yn bosibl.

Derbyniwyd nawdd hefyd gan Brifysgol Cymru (Cronfa Goffa Thomas Ellis) tuag at gostau’r lluniau o’r llawysgrifau, a chan Gyngor Celfyddydau Cymru i ariannu’r cyngerdd a gynhaliwyd i ddathlu agor y wefan.

Mae Dafydd Johnston, A. Cynfael Lake (Prifysgol Abertawe), Huw M. Edwards (Prifysgol Cymru Aberystwyth) a Dylan Foster Evans (Prifysgol Caerdydd) yn ddiolchgar i’w sefydliadau am eu rhyddhau am gyfnodau sabothol i weithio ar y prosiect hwn.

Rydym yn ddyledus iawn i’r Athro Geraint H. Jenkins, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth, am ddarparu lle yn y Ganolfan i’n cynorthwyydd ymchwil am bedair blynedd.

Bu aelodau Pwyllgor Llywio’r prosiect yn hael iawn â’u hamser, a charem gydnabod yn arbennig y cymorth gwerthfawr a gawsom gan yr Athro Emeritws D. J. Bowen, yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd, Mr Daniel Huws a Dr Ann Parry Owen.

Rydym yn ddiolchgar i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ddarparu’r lluniau digidol o’r llawysgrifau ac am yr hawl i’w dangos ar ein gwefan, ac yn enwedig i Mr Scott Waby am ei gymorth amyneddgar.

Diolch yn fawr i staff Canolfan Recordio Prifysgol Abertawe am sawl cymwynas.

Cyfrannwyd nifer o luniau am bris gostyngedig neu’n rhad ac am ddim, ac rydym yn ddiolchgar i’r canlynol am eu haelioni: Peter Wakely (English Nature), Sue Tranter, Arthur Grossett, Charles a Patricia Aithie, Eugene Hood, Adri de Groot, Spink, Malene Thyssen, Richard Ford, Ifor ap Dafydd, BS Thurner Hof.



 

 

Developed and Maintained by Digital Humanities at Swansea University | Hawlfraint - Prifysgol Abertawe / Copyright - Swansea University | Rhestr Cerddi / Poem List