Testun Golygedig: 146 - Disgwyl yn Ofer

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Disgwyl yn Ofer

Deg nithiad, doe y gwneuthum,
Duw Llun, oed â bun, y bûm.
Lle gwelais hoen geirw, trais trai,
4 DduwSul, y hi addawsai
Ddyfod i eilwydd ofyn
Lle ni ddoeth llawen o ddyn.

   Llawer golwg, ddyn llawen,
8 Llariaidd a gweddaidd yw gwen,
O frys haf a fwriais i
I fry parth â'r fro eiddi,
Tawel fryd, uwch y tywyn
12 Tua lle'dd oedd. Twyllai ddyn.
Morwyn yw, mirain awen,
A mefl i minnau–Amen!–
O rhof, yn rhad y'm gwadawdd,
16 I dwyll hon, ac nid dull hawdd.

   O'r borau, ddyn goleuwefr,
Hyd anterth dan y berth befr,
O anterth, pridwerth prydydd,
20 Hyd hanner dau amser dydd,
O hanner dydd a honnir
Hyd byrnhawn a bery'n hir,
O byrnhawn, sôn digawn syml,
24 Hyd y nos, hoed annisyml,
Hirwyl yw ym ei haros,
Eurwawr hardd, ar war y rhos.
Pe bawn, myn y Pab annwyl,
28 Yn y llwyn, anneall hwyl,
Cyd y bu'r gŵr, cyflwr cail,
Ebwch gwae, wrth y baich gwiail,
Gwyn ac addwyn ei hwyneb,
32 –Gwae fi!–ni welwn i neb.