| Disgwyl yn Ofer | |
| Deg nithiad, doe y gwneuthum, | |
| Duw Llun, oed â bun, y bûm. | |
| Lle gwelais hoen geirw, trais trai, | |
| 4 | DduwSul, y hi addawsai |
| Ddyfod i eilwydd ofyn | |
| Lle ni ddoeth llawen o ddyn. | |
| Llawer golwg, ddyn llawen, | |
| 8 | Llariaidd a gweddaidd yw gwen, |
| O frys haf a fwriais i | |
| I fry parth â'r fro eiddi, | |
| Tawel fryd, uwch y tywyn | |
| 12 | Tua lle'dd oedd. Twyllai ddyn. |
| Morwyn yw, mirain awen, | |
| A mefl i minnau–Amen!– | |
| O rhof, yn rhad y'm gwadawdd, | |
| 16 | I dwyll hon, ac nid dull hawdd. |
| O'r borau, ddyn goleuwefr, | |
| Hyd anterth dan y berth befr, | |
| O anterth, pridwerth prydydd, | |
| 20 | Hyd hanner dau amser dydd, |
| O hanner dydd a honnir | |
| Hyd byrnhawn a bery'n hir, | |
| O byrnhawn, sôn digawn syml, | |
| 24 | Hyd y nos, hoed annisyml, |
| Hirwyl yw ym ei haros, | |
| Eurwawr hardd, ar war y rhos. | |
| Pe bawn, myn y Pab annwyl, | |
| 28 | Yn y llwyn, anneall hwyl, |
| Cyd y bu'r gŵr, cyflwr cail, | |
| Ebwch gwae, wrth y baich gwiail, | |
| Gwyn ac addwyn ei hwyneb, | |
| 32 | –Gwae fi!–ni welwn i neb. |