Y Cleddyf | |
Rhyhir wyd a rhy gyflun, | |
Rho Duw, gledd, ar hyd y glun. | |
Ni ad dy lafn, hardd–drafn hy, | |
4 | Gywilydd i'w gywely. |
Cadwaf i di i'm deau, | |
Cedwid Duw y ceidwad tau. | |
Mau gorodyn, mygr ydwyd, | |
8 | Meistr wyf a'm grymuster wyd. |
Gŵr fy myd ni gar fy myw, | |
Gwrdd ei rwystr, gerddor ystryw, | |
Tawedog, enwog anwych, | |
12 | Tew ei ddrwg, mul wg mal ych. |
Gweithiau y tau, amod da, | |
Ac weithiau y'm bygythia. | |
Tra'th feddwyf, angerddrwyf gwrdd, | |
16 | Er ei fygwth, arf agwrdd, |
Oerfel uwch ben ei wely, | |
A phoeth fo dy feistr o ffy | |
Nac ar farch, dibarch dybiaw, | |
20 | Nac ar draed er y gŵr draw, |
Oni'm pair rhag deuair dig | |
Cosb i'th ddydd, casbeth Eiddig. | |
Catgno i gilio gelyn, | |
24 | Cyrseus, cneifiwr dwyweus dyn, |
Coethaf cledren adaf wyd; | |
Collaist rwd, callestr ydwyd. | |
Coelfain brain brwydr, treiglgrwydr trin, | |
28 | Cilied Deifr, caled deufin, |
Cyfylfin cae ufelfellt, | |
Cadwaf dydy i'th dŷ dellt. | |
Cwysgar wyd rhag esgar ym, | |
32 | Cain loywgledd canoliglym. |
Llym arf grym, llyma f'aur gred, | |
Lle y'th roddaf llaw a thrwydded: | |
Rhag bod yng nghastell celli | |
36 | Rhyw gud nos i'n rhagod ni, |
Rhwysg mab o fuarth baban, | |
Rhed, y dur, fal rhod o dân. | |
Na chêl, ysgwyd Guhelyn, | |
40 | Ar fy llaw o daw y dyn. |
Glew sidell, gloyw osodau, | |
Rhyfel wyd, y metel mau. | |
Hwn a'm ceidw rhag direidwyr, | |
44 | Ehuta' cledd, ŵyr Hawt–clŷr. |
Ar herw byddaf ar hirwyl | |
Dan y gwŷdd, mi a'm dyn gŵyl. | |
Nid ansyberw ym herwa | |
48 | Os eirch dyn, nid o serch da. |
Talm o'r tylwyth a'm diaur, | |
Tew fy ôl ger tŷ fy aur. | |
Ciliawdr nid wyf, wyf Ofydd, | |
52 | Calon serchog syberw fydd. |