Englynion i Ifor Hael | |
O haelder, fy nêr, fy Nudd—a'm aergaer | |
A'm eurgarw hael am fudd, | |
Afarwy, gaethrwy gythrudd, | |
4 | Ofer un wrth Ifor udd. |
O ddewredd hoywgledd, hyglaer—ymadrodd, | |
A medru treio aer, | |
O fawrgyrch hylithr, f'eurgaer, | |
8 | Ofer dau wrth Ifor daer. |
O ddoethineb, neb nid nes ataw—Ffranc | |
Nog o Ffrainc i Fanaw, | |
I fwrw dadl swrth oddi wrthaw, | |
12 | Ofer dri wrth Ifor draw. |
O ufudd-dawd, ffawd a ffydd—a chiried, | |
A charu ei brydydd, | |
Ofer bedwar, hawddgar hydd, | |
16 | Wrth Ifor, euriaith Ofydd. |
O fonedd, trasedd, ŵr trasyth—a ffin, | |
A ffyniant aml dilyth, | |
O weilch, uchel wehelyth, | |
20 | Ofer bump wrth Ifor byth. |
O gryfder, fy ffêr, ffyrf dëyrn—eurdeg | |
Yn dwyn eurdo hëyrn, | |
Faedd cad i faeddu cedyrn, | |
24 | Ofer chwech wrth Ifor chwyrn. |
O degwch, brifflwch brafflyw—urddedig, | |
Pendefig rhyfig rhyw, | |
Ei fardd wyf, o ddwfn ystryw, | |
28 | Ofer saith wrth Ifor syw. |
O ddisymlrwydd swydd, gyfansoddwr—bardd, | |
Enaid beirdd a'u clydwr, | |
Afar brwydr i fwrw bradwr, | |
32 | Ofer wyth wrth Ifor ŵr. |
O gampau gorau a garaf—ar ŵr, | |
Eryraidd y'i barnaf, | |
O roddion aml a rhwyddaf, | |
36 | Ofer naw wrth Ifor naf. |
O wychder, fy nêr un arial—â Ffwg, | |
Morgannwg mawr gynnal, | |
Ofer dyn, fwriad anial, | |
40 | Ofer deg wrth Ifor dal. |