| Ail Gywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym | |
| Graifft y plwyf, ei grefft a'i plyg, | |
| Graff ei ddeigr, Gruffudd ogryg, | |
| Dihaereb, ŵr du, erof, | |
| 4 | Da y cân, dieuog gof. |
| Ymannerch teg, o mynnai, | |
| A gair caredig a gâi; | |
| Ac onis myn, gefyn gau, | |
| 8 | A fynnwyf a wnaf innau. |
| Ni ŵyr Dduw ym, loywrym lais, | |
| Wadu gair a ddywedais, | |
| Na bai raid, tyngnaid tangnef, | |
| 12 | Sampl ei wawd: gŵr simpl yw ef. |
| Llyma'r dyst, lle mae'r destun, | |
| Gardd hir, yn ei gerdd ei hun. | |
| Cynt i'n gŵydd y cant yn gerth | |
| 16 | Cefnir Dudur ap Cyfnerth |
| Ym, a'r march gwŷdd, hydd hoywddaint, | |
| Ac i'r organ, simffan saint, | |
| Caniad dalm cyn oed dolef, | |
| 20 | Cenau taer, nog y cant ef. |
| Pam ydd âi, ddifai ddefawd, | |
| Pefr nerth, dros dalu gwerth gwawd, | |
| Was dewr hy, i west y rhawg | |
| 24 | Ar Dudur, ŵr odidawg? |
| Mynned fab ei adnabod, | |
| Mulder glew, mold ar y glod, | |
| Ac na fynned, ced a'i cêl, | |
| 28 | Ar ddychan arwydd ochel. |
| Ynfyd yw i wiwfyw was | |
| Anfon anrhegion rhygas | |
| O Fôn, hwylion a holir, | |
| 32 | I mi hyd Bryderi dir. |
| Henw fy ngwlad yw Bro Gadell, | |
| Honnaid ei gwŷr, hyn neud gwell. | |
| Ystod o'i dafod a dyf, | |
| 36 | Ysto garth, os dig wrthyf, |
| Deuwn i gyd, da fyd fu, | |
| Lawlaw rhwng y ddau lewlu, | |
| Ymbrofwn, lle'r ŷm, brifeirdd | |
| 40 | Yn ddiannod, hyrddod heirdd, |
| Â dwygerdd serth, digardd sôn, | |
| A deugorff ffynedigion, | |
| A dau dafawd, breuwawd braw, | |
| 44 | A deulafn dur, a dwylaw. |
| Agwrdd hwrdd ar heirdd wychdraed, | |
| Ac o'r rhyfel a êl, aed. | |
| Gaded ym, i ddig oedi, | |
| 48 | Gwden ym o gadwn i. |
| Dyrnawd o hirwawd herwa, | |
| Yn rhad gan ei dad, nid â. | |
| Or bydd heb sorri, cri cryf, | |
| 52 | Digynnen, da yw gennyf; |
| O syrr, lle gwesgyr Gwasgwyn, | |
| O'm dawr, Gwyn ap Nudd i'm dwyn. | |