Testun Golygedig: 38 - Merch, Aderyn a Bedwen

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Merch, Aderyn a Bedwen

Eiddun dewisaf serchawg,
O Dduw Rhi, a ddaw yrhawg,
O bai'n barawd ei wawd wedn,
4Bun gywiw a bangawedn?
Ni bu, er dysgu disgwyl,
Gan serchogwas, golas gŵyl,
Crefft mor ddigrif, er llif llid,
8Ag arail merch a gerid,
A rhodio, heirio hiroed,
Cilfachau, cadeiriau coed,
Mal cynydd, chwareydd chwai,
12Am lwdn gwyllt a ymlidiai
O le pwy gilydd o lid
O lwyn i lwyn, ail Enid,
Ac edn bach a geidw ynn bwyll
16Yn ochr wybr yn ei chrybwyll.

   Golau lais, galw ail Esyllt
A wnâi y gwiw latai gwyllt,
Aur ei ylf, ar wialen,
20Ar ei gred, yn gweled gwen.
Digrif, beis gatai'r dagrau
A red, oedd glywed yn glau
Dyrain mawr ederyn Mai
24Dan irfedw y dyn erfai,
Eirian farchog doniog dôn
Urddol aur ar ddail irion.
Hoyw erddigan a ganai
28Awr by awr, poen fawr pan fai.
Nid âi ef, mygr waslef mwyn,
Arianllais edn, o'r unllwyn,
Meddylgar gerdd glaear glau,
32Mwy nog ancr, meinion geincau.

   Da y gweddai 'medwendai mwyn,
Or delai'r edn i'r deilwyn,
Corbedw diddos eu hosan,
36Cyweithas gawell glas glân,
Teg fedwen to gyfoedwallt,
Tŵr diwael ar ael yr allt.
Tyfiad heb naddiad neddyf,
40Tŷ, ar un piler y tyf.
Tusw gwyrdd hudolgyrdd deilgofl,
Tesgyll yn sefyll ar sofl,
Tywyllban, mursogan Mai,
44Tew irnen, rhad Duw arnai.

   Crefft ddigrif oedd, myn y crair,
Cusanu dyn cysonair,
Ac edrych gwedy'n gwiwdraul
48Rhôm ny hun, rhwymynnau haul,
Trwy fantell fy niellwraig,
Trumiau, ceiniogau cynhaig,
A lleddfu agwedd heddiw,
52Llygad glas, llwygedig liw,
Oroen gem eirian gymwyll,
Ar y dyn a oryw dwyll.