Testun Golygedig: 100 - Nodwyddau Serch

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Nodwyddau Serch

Dy gariad, Indeg oroen,
Dygn y sydd, huelydd hoen,
Ynof, gwas o nwyf a gwedd,
4 Yn fy mlino naw mlynedd.
Ni bu ar les ei dadmaeth
O hir gydmeithas was waeth.
Moethus o was, lleas llaw,
8 Metheddig fab maeth iddaw.

   Llyna, Forfudd ddiledryw,
A gaf o dâl, gofid yw.
Py lan bynnag ydd elych,
12 Na Sul na gŵyl, f'annwyl fych,
Caeed a wnaf, fy nyn llwyd,
Ddeuddwrn i'r lle ydd eddwyd,
Ac yno, em y genedl,
16 Oganus, chwarëus chwedl,
Torri fy llygaid terrwyn
Ar dy hyd, f'anwylyd fwyn.

   Ef a fydd y dydd ai deg
20 O nydwyddau, ai deuddeg,
O'r amrant, er ymrwystr fydd,
Bugeilaeth serch, bwygilydd,
Hyd nad ymweisg, ddyn ddoethgall,
24 Un, aur ei llun, ar y llall.
Tra fo fy llygaid, haid hawl,
Yn agored engiriawl,
Glaw a ddaw, dyn gloyw-wedd wyd,
28 O sugn y fron a ysigwyd.
O ddinau'r ddeunant ar lled
Odd yno, fy eidduned,
Meddylia hyn, y feinferch,
32 Meddyliau o sugnau serch,
Y daw glaw yn ôl praw prudd
Hyd y farf, hydwf Forfudd.

    Cyd bwyf dalm, er salm, o'r Sul
36 Yn y glwysgor, un glasgul,
Ni'm gwrthyd, dyfryd difreg,
Pawb o'r plwyf, er nad wyf deg.
Cyfraith serch y sy'n erchi,
40 Cymer dy hun yt, fun, fi.