| Yr Wylan | |
| Yr wylan deg ar lanw, dioer, | |
| Unlliw ag eiry neu wenlloer, | |
| Dilwch yw dy degwch di, | |
| 4 | Darn fal haul, dyrnfol heli. |
| Ysgafn ar don eigion wyd, | |
| Esgudfalch edn bysgodfwyd. | |
| Yngo'r aud wrth yr angor | |
| 8 | Lawlaw â mi, lili môr. |
| Llythr unwaith lle'th ariannwyd, | |
| Lleian ym mrig llanw môr wyd. | |
| Cyweirglod bun, cai'r glod bell, | |
| 12 | Cyrch ystum caer a chastell. |
| Edrych a welych, wylan, | |
| Eigr o liw ar y gaer lân. | |
| Dywaid fy ngeiriau dyun, | |
| 16 | Dewised fi, dos hyd fun. |
| Byddai'i hun, beiddia'i hannerch, | |
| Bydd fedrus wrth fwythus ferch | |
| Er budd; dywaid na byddaf, | |
| 20 | Fwynwas coeth, fyw onis caf. |
| Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd, | |
| Och wŷr, erioed ni charawdd | |
| Na Merddin wenithfin iach, | |
| 24 | Na Thaliesin ei thlysach. |
| Siprys dyn giprys dan gopr, | |
| Rhagorbryd rhy gyweirbropr. | |
| Och wylan, o chai weled | |
| 28 | Grudd y ddyn lanaf o Gred, |
| Oni chaf fwynaf annerch, | |
| Fy nihenydd fydd y ferch. | |