Testun Golygedig: 44 - Yr Ehedydd

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Yr Ehedydd

Oriau hydr yr ehedydd
A dry fry o'i dŷ bob dydd,
Borëwr byd, berw aur bill,
4 Barth â'r wybr, borthor Ebrill.
Llef radlon, llywiwr odlau,
Llwybr chweg, llafur teg yw'r tau:
Llunio cerdd uwch llwyni cyll,
8 Lledneisgamp llwydion esgyll.
Bryd y sydd gennyd, swydd gu,
A brig iaith, ar bregethu,
Braisg dôn o ffynnon y ffydd,
12 Breiniau dwfn garbron Dofydd.
Fry yr ai, iawnGai angerdd,
Ac fry y ceny bob cerdd.

    Fy llwyteg edn, fy llatai,
16 A'm brawd awdurdawd, od ai,
Annerch gennyd wiwbryd wedd,
Loyw ei dawn, leuad Wynedd,
A chais un o'i chusanau
20 Yma oe ddwyn ym, neu ddau.
Mygr swyn gerllaw magwyr sêr,
Maith o chwyldaith uchelder,
Dogn achub, digon uched
24 Y dringaist, neur gefaist ged.
Dysgawdr mawl rhwng gwawl a gwyll,
Disgyn, nawdd Duw ar d'esgyll.

   Moled pob mad creadur
28 Ei greawdr, pefr lywiawdr pur.
Moli Duw mal y dywaid,
Mil a'i clyw, hoff yw, ni phaid.
Modd awdur serch, mae'dd ydwyd?
32 Mwyn groyw yw'r llais mewn grae llwyd.
Cathlef lân diddan yw'r dau,
Cethlydd, awenydd winau.
Cantor o gapel Celi,
36 Coel fydd teg, celfydd wyd di.
Cyfar fraint, aml gywraint gân,
Copa, a llwyd yw'r capan.
Cyfeiria'r wybr cyfarwydd,
40 Cywyddol, dir gweundir gŵydd.
Dyn uwchben a'th argenfydd,
Dioer, pan fo hwyaf y dydd.
Ban ddelych i addoli,
44 Dawn a'th roes Duw Un a Thri,
Nid brig pren uwchben y byd
A'th gynnail, mae iaith gennyd,
Ond rhadau y deau Dad
48 A'i firagl aml a'i fwriad.

    Difri yr wybrfor dyrys,
Dos draw hyd gerllaw ei llys.
Bychan, genthi bwyf fi, fydd
52 Bâr Eiddig un boreddydd.
Mae arnad werth cyngherthladd
Megys na lefys dy ladd.
Be rhôn a'i geisio, berw hy,
56 Bw Eiddig on'd byw fyddy.
Mawr yw'r sercl yt a berclwyd,
 bwa llaw mor bell wyd.
Trawstir sathr, trist yw'r saethydd,
60 Trwstan o'i fawr amcan fydd.
Trwch ei lid, tro uwch ei law
Tra êl â'i hobel heibiaw.